Enwi dyn 76 oed fu farw yng Nghwmbrân

Heol Cydweli Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd swyddogion fforensig eu galw i'r safle yng Nghwmbrân ddydd Mawrth

Mae'r heddlu wedi enwi dyn gafodd ei ganfod yn farw yn Nhorfaen ddydd Mawrth.

Roedd Thomas Gallagher yn 76 oed ac yn dod o Gwmbrân.

Cafodd corff Mr Gallagher ei ganfod mewn tŷ ar Heol Cydweli yn y dref am tua 10:30 ddydd Mawrth.

Mae dyn lleol, 55 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.

Pynciau Cysylltiedig