Teyrnged i ddyn wedi digwyddiad cronfa ddŵr Margam

Adam Llewellyn Image copyright Llun teulu

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn "uchel ei barch" o Ben-y-bont ar Ogwr a fu farw yn dilyn digwyddiad yng nghronfa Eglwys Nunydd, Margam.

Dywedodd teulu Adam Llewellyn, 41, ei fod yn "ŵr, mab a thad gonest, ffyddlon ac yn weithiwr caled".

Bu farw yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â beic cwad ar 5 Medi.

Ychwanegodd y datganiad: "Roedd e'n gawr i'w blant, yn hael gyda'i amser ac o hyd yn helpu eraill.

"Roedd ganddo barch yn bopeth yr oedd ef a'i deulu wedi cyflawni.

"Roedd yn ddyn uchel ei barch yn y gymuned leol a'r gymuned amaethyddol, ac mae'r teimlad o golled yn dyst i gariad Adam a'i ymroddiad i'w deulu.

"Rydym wedi ei'n torri gan yr hyn sydd wedi digwydd ac am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a charedigrwydd yn yr amser trist hwn."

Image copyright Google
Image caption Bu farw Mr Llewellyn yn dilyn digwyddiad yng nghronfa ddŵr Eglwys Nunydd ger Margam

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran cwmni dur Tata, perchnogion y gronfa ddŵr, mai contractwr oedd y dyn fu farw.

Mae Heddlu'r De a'r gweithgor iechyd a diogelwch yn ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol