Morgannwg wedi colli o 155 rhediad yng Nghaerwrangon

Daryl Mitchell Image copyright Rex Features
Image caption Sgoriodd Daryl Mitchell 139 cyn cael ei redeg allan

Mae Morgannwg wedi colli o 155 rhediad yn eu gêm yn erbyn Sir Gaerwrangon ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Yn gynharach roedd Daryl Mitchell wedi cyrraedd 139 i'r tîm cartref, i osod targed o 312 i Forgannwg.

Dechreuodd ail fatiad Morgannwg yn wael wrth i Nick Selman a Kraigg Brathwaite golli eu wicedi heb sgorio.

Fe gollodd Morgannwg wicedi yn gyson wedyn, gan orffen ar 156. Chris Cooke oedd y prif sgoriwr gyda 45.

Dyma oedd trydedd colled Morgannwg yn olynol, gan roi ergyd i'w gobeithion am ddyrchafiad.

Pynciau Cysylltiedig