Cyhuddo dyn o lofruddiaeth wedi marwolaeth Cwmbrân

Heol Cydweli
Image caption Cafwyd hyd i gorff y dyn 76 oed mewn tŷ yn Heol Cydweli fore Mawrth

Mae dyn 55 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth wedi i ddyn arall gael ei ganfod yn farw mewn tŷ yn Nhorfaen.

Cafodd corff y dyn 76 oed ei ganfod ar Heol Cydweli yng Nghwmbrân am tua 10:30 ddydd Mawrth.

Dywedodd Heddlu Gwent nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Bydd y dyn 55 oed, sy'n lleol i'r ardal, yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Iau.

Image copyright Wales News Service
Image caption Mae swyddogion fforensig wedi bod yn bresennol ar y safle

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol