O'r Mynydd i'r Môr 'ddim yn brosiect ailwylltio'

Ailwylltio
Image caption Mae llawer o ffermwyr yn y canolbarth yn gwrthwynebu'r prosiect yn gryf

Mae cyfarwyddwr prosiect amgylcheddol dadleuol yn y canolbarth yn dweud mai'r blaenoriaethau yw "cynaladwyedd y dirwedd", cydweithio gyda chymunedau lleol a chefnogi tirfeddianwyr, gan gynnwys ffermwyr.

Yn ei chyfweliad cyntaf ers dechrau yn y rôl, mae Melanie Newton yn pwysleisio nad yw prosiect O'r Mynydd i'r Môr ynglŷn ag ailwylltio.

Mae ailwylltio yn cael ei ddiffinio fel adfer ecosystemau lle mae natur yn gallu edrych ar ôl ei hun, ac i rai mae hynny'n golygu cyfyngu ar amaeth.

Mae llawer o ffermwyr yn y canolbarth yn gwrthwynebu'r prosiect yn gryf, ond yn ôl Ms Newton mae'r ddrwgdybiaeth yn ganlyniad i gamddealltwriaeth o amcanion y prosiect.

Image caption Mae Melanie Newton yn mynnu nad yw prosiect O'r Mynydd i'r Môr ynglŷn ag ailwylltio

"Nage prosiect ailwylltio yw hwn - mae pob math o bethau eraill yma," meddai.

"Mae'r gair ailwylltio yn anodd iawn ac yn golygu lot o wahanol bethau i wahanol bobl.

"I ni fan hyn sicrhau'r amgylchedd yw e i ni ac nid meddwl am ailwylltio a dod ag anifeiliaid yn ôl.

"Dyw hynny ddim yn bwysig i ni a dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd."

10,000 hectar o dir

Mae O'r Mynydd i'r Môr wedi derbyn cyllid grant o £3.4m dros y bum mlynedd nesaf.

Mae'r prosiect yn gobeithio y bydd ei ardal yn cwmpasu 10,000 hectar o dir, o ucheldiroedd Pumlumon i lawr i aber Afon Dyfi.

Ar ben hynny mae'n targedu 28,400 hectar o fôr ym Mae Ceredigion.

O fewn yr ardal eang mae'n bwriadu "adfer ecosystemau ffyniannus ac economi leol gydnerth ar raddfa sydd heb ei gweld erioed o'r blaen yng ngwledydd Prydain".

Image caption Daeth grŵp o 150 o ffermwyr i gyfarfod yn Nhalybont fis diwethaf i fynegu eu pryderon

Mae gan y prosiect bum aelod o staff ar hyn o bryd ac mae dwy swydd arall eto i'w llenwi.

Mae naw o fudiadau'n rhan o'r prosiect, gan gynnwys Rewilding Britain, Coed Cadw a'r RSPB.

Mae Ecodyfi - mudiad adfywio cymunedol ym Machynlleth - wedi tynnu allan o'r prosiect gan ddweud ei fod yn teimlo nad yw'n canolbwyntio'n ddigonol ar agweddau diwylliannol, ieithyddol a chymdeithasol o ddatblygu cynaliadwy.

'Ffermwyr yw'r gymuned'

Mae Ms Newton yn dweud ei bod hi'n deall y pryderon ynglŷn â'r prosiect, yn enwedig ymhlith y gymuned ffermio.

Dywedodd bod gan amaeth ran allweddol i'w chwarae yn y prosiect.

"Wrth gwrs bod lle i ffermwyr o fewn ardal y prosiect - nhw sy'n berchen y tir yma a nhw yw'r gymuned," meddai.

"Ry'n ni eisiau'r dyfodol gorau ar gyfer pawb sy'n byw yn yr ardal felly ry'n ni angen meddwl am beth sy'n mynd i ddigwydd i'r amgylchedd.

"Ry'n ni eisiau cefnogi ffermio fel y mae e, ond mae'r bygythiad i ffermio defaid yn dod o lefydd eraill yn allanol.

"Ry'n ni'n cefnogi pori fel rhan o reoli'r dirwedd. Mae'r bobl wedi siarad ac rydyn ni wedi gwrando."

Image caption Mae Andy Rowland yn gweithio i Eco Dyfi

Er hyn mae aelodau'r gymuned amaeth yn ardal y prosiect yn ddrwgdybus.

Mewn cyfarfod yn Nhalybont, Ceredigion, fis diwethaf fe wnaeth grŵp o 150 o ffermwyr o'r ardal gefnogi cynnig yn gwrthwynebu cydweithio gyda'r prosiect tra bod Rewilding Britain yn un o'r partneriaid.

Dywedodd Wyn Evans, aelod o'r grŵp cymunedol sy'n codi pryderon ynglŷn â'r prosiect: "Tra bod cysylltiad cynhenid rhwng O'r Mynydd i'r Môr a Rewilding Britain bydd y gymuned amaeth yng Nghymru yn parhau i fod yn llawn amheuon ynglŷn â'r prosiect hwn."

Mae O'r Mynydd i'r Môr ar fin dechrau ar 12 mis o ymgysylltu gyda'r gymuned leol.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol