Gŵyl newydd i 'ddeffro' ymwybyddiaeth o hanes Cymru

Sycharth Image copyright Ceidiog Hughes
Image caption Mae ailgread o lys Owain Glyndŵr wedi'i greu gan ddefnyddio technoleg rithwir

Amcan gŵyl newydd yng Nghorwen dros y penwythnos ydy "deffro" ymwybyddiaeth pobl o hanes Cymru.

Ymhlith atyniadau Gŵyl y Fflam mae ailgread o lys Owain Glyndŵr yn Sycharth, Powys.

Gan ddefnyddio technoleg rithwir, bydd cyfle i bobl grwydro'r llys fel yr oedd yng nghyfnod y tywysog.

Mae'r ŵyl, yn ôl un o'r trefnwyr, hefyd yn ffordd o geisio "bywiogi" tref Corwen.

Er mai yn Sycharth ger Llansilin ym Mhowys oedd llys enwocaf Glyndŵr, roedd dalgylch Corwen yn gadarnle iddo.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ai dyma sut oedd llys Owain Glyndŵr yn edrych?

"Roedd o'n un o feibion tywysogion Powys oedd yn yr ardal yma," meddai Dylan Jones, un o drefnwyr Gŵyl y Fflam.

"Cafodd ei goroni ddim yn bell o 'ma, rhyw ddwy filltir i ffwrdd, yn 1400 - a dyna pryd 'ddaru'r helynt ddechrau."

Aeth Owain Glyndŵr ymlaen i arwain gwrthryfel yn erbyn rheolaeth coron Lloegr a rhai o arglwyddi'r Gororau am tua degawd.

'Arwr cenedlaethol'

Heddiw, mae cerflun amlwg ohono yng nghanol Corwen, ond mae lle i godi ymwybyddiaeth o'r hanes, yn ôl Gwyneth Ellis, sydd hefyd ymhlith y trefnwyr.

"Yn amlwg, mae 'na lawer o bobl yn yr ardal sy'n ymfalchïo yn yr hanes, ond mae 'na lawer o bobl sydd ddim yn gwybod yr hanes," meddai.

"A dwi'n meddwl bod rhywbeth fel hyn yn mynd i ddeffro'r hanes ym meddyliau pawb."

Image caption Dywedodd Gwyneth Ellis bod angen i Gorwen gymryd mantais o'r cysylltiad ag Owain Glyndŵr

Ychwanegodd bod angen i Gorwen gymryd mantais o'r cysylltiad â'r tywysog.

"Mae angen i drefi ffeindio rhywbeth i ddenu pobl i fewn," meddai Ms Ellis.

"Yng Nghorwen, mae gennym ni'r arwr cenedlaethol 'ma, felly mae'n bwysig ein bod ni'n ei ddefnyddio i fywiogi canol y dre'."

Mae'r ailgread o'r llys yn Sycharth wedi ei ddatblygu gan gwmni Vivid Virtual Reality, ac mae wedi ei seilio'n rhannol ar ddisgrifiad cyfoes y bardd Iolo Goch o'r llys.

Ymhlith yr atyniadau eraill yng Ngŵyl y Fflam, sy'n cael ei chynnal ar 14 a 15 Medi, mae darlithoedd, darlleniadau ac efelychiadau o frwydrau canoloesol.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol