Ffrae chwerw yn taro cymdeithas merlod a cobiau

cobiau

Gallai naw o ymddiriedolwyr Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig gael eu disodli yn sgil ffrae chwerw ymhlith yr aelodau, mae'r rhaglen BBC Radio Cymru Post Cyntaf yn deall.

Deallir fod o leiaf 5% o'r aelodaeth wedi arwyddo deiseb yn galw am gyfarfod cyffredinol i drafod nifer o gynigion penodol.

Fe gafodd y gymdeithas ei ffurfio yn 1901, ac mae ganddi dros 5,000 o aelodau ar draws y byd.

Hon yw'r gymdeithas fwyaf o blith yr holl gymdeithasau sy'n hybu bridiau cynhenid Prydeinig.

Mae'r gymdeithas yn hyrwyddo bridio a chynnal safonau merlod a chobiau Cymreig ac yn gyfrifol am gofrestru, trwyddedu, trosglwyddo perchnogaeth ac allforion.

Image caption Mae gan Gymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig dros 5,000 o aelodau

Mae aelodau o'r gymdeithas wedi cyflwyno cynnigion i ddisodli'r naw o'r 14 ymddiriedolwr canlynol mewn cyfarfod yn Llanelwedd ar 18 Medi:

  • Miss D Chambers
  • Mr RJ Davies
  • Mr WG Davies
  • Mr JE Evans
  • Mr GDJ Jones
  • Mr GW Jones
  • Mr DD Morgan
  • Mr DO Roberts
  • Mr C Thomas

Yn y datganiad cyntaf gan y grŵp sy'n galw am y cyfarfod maen nhw'n rhestru 11 o resymau pam eu bod eisiau disodli'r ymddiriedolwyr, gan gynnwys bod:

  • Y gymdeithas wedi gwneud colled ariannol o £120,000 yn 2018;
  • Yr aelodaeth wedi gostwng 6% yn 2018, a bod nifer y merlod a chobiau gafodd eu cofrestru wedi gostwng 8%;
  • Nifer o ymddiriedolwyr ac ysgrifenyddion wedi ymddeol yn ddiweddar;
  • Prosesau disgyblu ddim wedi'u dilyn, gydag aelodau sydd wedi'u diarddel ddim yn cael apelio;
  • Aelodau'n teimlo nad yw eu barn yn cael ei ystyried, ac nad yw'r gymdeithas yn dryloyw.

Fe fydd aelodau naill ai yn gallu pleidleisio o blaid neu yn erbyn y cynigion, neu yn gallu rhoi pleidlais drwy ddirprwy yn y cyfarfod.

Yn ôl dogfennau sydd wedi eu gweld gan BBC Cymru, does yna ddim rheswm yn cael ei gynnig dros geisio disodli'r ymddiriedolwyr.

Mae'r gymdeithas ei hun yn annog yr aelodau i wrthod y cynigion, ond mae cyn-lywydd, sydd hefyd yn fridiwr, yn cefnogi'r cynigion.

Dywedodd Elizabeth French, sy'n cadw Cobiau Cymreig yn ardal Chippenham yn Wiltshire: "Rwy' wedi bod yn aelod am 51 o flynyddoedd, ac yn lywydd.

"Mae'r gymdeithas wastad wedi gweld cyfnodau da a drwg, ond mae'r cyfnod diweddara' wedi ysgwyd y gymdeithas i'w seiliau.

"Oni bai fod yna newid, dwi ddim yn gweld ffordd ymlaen. Mae angen ymddiriedolwyr newydd, a ffordd flaengar o feddwl."

'Dicter mawr'

Fe ddywedodd Ms French wrth BBC Cymru bod angen "cynrychiolaeth decach" ar y cyngor, ac roedd gormod o "ymddiriedolwyr o'r un ardal" ac mi allai hynny arwain at "ddrwgdybiaeth".

Mae beirniaid eraill wedi dweud wrth BBC Cymru nad yw'r cyngor yn gwrando ar farn yr aelodau, ac mae yna ddiffyg profiad ymhlith yr ymddiriedolwyr.

Deallir hefyd bod yna ddicter mawr am achosion disgyblu o fewn y gymdeithas, a dadlau hefyd am y defnydd o brofion DNA ar gesig.

Ar y cyfryngau cymdeithasol, mae rhai yn cyhuddo'r gymdeithas o ddiffyg tryloywder.

Image caption Ifor Lloyd: "Maen nhw'n trio dod mewn drwy'r drws cefn"

Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu gyda rhai o'r ymddiriedolwyr sy'n wynebu'r fwyell.

Roedd un yn gwrthod siarad, ond fe ddywedodd un arall, yn ddienw, bod y cyfarfod ar 18 Medi yn teimlo fel "wynebu achos llys heb wybod beth yw'r cyhuddiadau yn eich erbyn".

Un sy'n gefnogol i'r ymddiriedolwyr presennol yw'r bridiwr cobiau, Ifor Lloyd, sydd yn gyn-lywydd ac yn aelod oes o'r gymdeithas.

"Beth dwi'n teimlo yw mae yna garfan o bobl eisiau cael gwared ar y naw, ac ymsefydlu eu hunain heb sefyll etholiad.

"Yn lle rhoi eu hunain fyny i'r etholiad, maen nhw'n trio dod mewn drwy'r drws cefn. Pam nad yw'r bobl yma ddim yn rhoi rheswm pendant i'r aelodaeth?

'Gweithio yn galed'

"Os ydyn nhw yn disodli'r naw ar y 18fed, fydd yna ddim cyfle i'r 5,000 o aelodau i bleidleisio, ac mae hynny yn drist iawn," meddai.

"Does dim byd yn berffaith. Ond roeddwn i yn aelod anrhydeddus o'r cyngor am ddwy flynedd, ac o beth oeddwn i yn gallu gweld, roedden nhw yn gweithio yn galed.

"Maen nhw'n dweud bod gormod o bobl o Sir Aberteifi ar y cyngor, ond maen nhw wedi cael eu hethol yn swyddogol."

Os ydy'r ymddiriedolwyr yn cael eu disodli ar 18 Medi, yna fe fydd yr aelodau sydd yn weddill yn medru cynnig ymddiriedolwyr newydd er mwyn sicrhau bod yna leiafswm o 10.

Ym mis Hydref fe gafodd Meirion Davies, sydd hefyd yn enwog fel bridiwr merlod mynydd, ei benodi i gymryd yr awenau fel ysgrifennydd y gymdeithas.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Gymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig i'r datblygiadau diweddar.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol