Rheolwr academi Casnewydd yn ymddiswyddo wedi ymchwiliad

Jorden Gibson Image copyright CPD Casnewydd
Image caption Cyn ymuno a Chasnewydd fe dreuliodd Jorden Gobson chwe blynedd yn gweithio yng nghlwb pêl droed Stevenage.

Mae rheolwr academi Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi ymddiswyddo o'i rôl wedi tri mis yn unig yn dilyn ymchwiliad gan y clwb i'w ymddygiad.

Fe wnaeth Casnewydd gadarnhau ymadawiad Jorden Gibson mewn datganiad byr ar wefan y clwb.

"Fe allai CPD Casnewydd gadarnhau fod rheolwr yr academi, Jorden Gibson wedi ymddiswyddo yn dilyn ymchwiliad mewnol ac mae wedi gadael y clwb yn syth," meddai'r datganiad.

Cyn ymuno gyda Chasnewydd fe dreuliodd Gibson chwe blynedd yn gweithio yng nghlwb Stevenage.