Aelwyd Hafodwenog yn dathlu'r 40

Image copyright Tegwyn Roberts
Image caption Parti dawns Aelwyd Hafodwenog yn cystadlu yn 1999

Mae Aelwyd Hafodwenog yn Sir Gaerfyrddin yn dathlu'r deugain eleni. Mae'r Aelwyd yn enw adnabyddus iawn dros Gymru am eu llwyddiant mewn cystadlaethau dawnsio gwerin a chlocsio yn Eisteddfodau'r Urdd ers degawdau.

Ac o'r dawnsio gwerin a'r clocsio i'r corau a'r partïon canu, mae Aelwyd Hafodwenog yn dal i ddenu pobl ifanc yr ardal i gystadlu ac i gyfarfod bob nos Iau, yn yr ysgol bentref.

Mae Eirlys a Mansel Phillips, dau o sylfaenwyr yr Aelwyd yn 1979, a'u plant Lleucu, Tudur a Cerian i gyd wedi bod ynghlwm â'r Aelwyd dros y blynyddoedd. Cafodd Cymru Fyw sgwrs â'r teulu i glywed beth yw'r gyfrinach i lwyddiant yr Aelwyd a sut ei fod yn helpu i gadw pobl ifanc yn yr ardal...

Eirlys Phillips

Image copyright Llun cyfrannydd (Owen Howells)
Image caption Tudur, Eirlys, Mansel, Cerian a Lleucu Phillips

Trosglwyddo'r awenau i'r bobl ifanc yn gyson yw un o'r prif resymau bod yr Aelwyd yn dal i ffynnuyn ôl Eirlys Phillips. Hynny, a brwdfrydedd a pharodrwydd y bobl ifanc leol i weithio'n wirfoddol er lles yr ardal.

"Mae deg i 15 person wedi bod yn arwain y corau dros y blynydde, yr un peth gyda'r dawnsio gwerin, a mae rhai newydd yn dod i ddysgu trwy'r amser. Dwi'n meddwl falle mai dyna'r gyfrinach," meddai Eirlys a enillodd Fedal Syr TH Parry Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004 am flynyddoedd o wasanaeth i hyfforddi ac arwain gweithgareddau yn ei bro.

"Mae nifer o'r aelodau yn perthyn i gorau yn yr ardal, i ddawnswyr Talog, clybiau ffermwyr ifanc a'r capel. Mae llawer ohonyn nhw yn gyfarwydd â gwneud gwaith gwirfoddol. 'Sneb yn cael eu talu, a mae nhw'n rhoi oriau ac oriau.

"Mae'r pasio 'mlaen o un arweinydd i'r nesaf yn rhan o lwyddiant yr Aelwyd.

'Cadw'r bobl ifanc yn yr ardal'

"Y'n ni'n lwcus. Sai'n gwbod ife achos bod gyda ni ffermwyr ifanc ac Aelwyd yr Urdd, ond mae cymaint o bobl ifanc wedi dod nôl i fyw yn yr ardal.

"O'r rhai sydd wedi bod yn rhan gref o'r Aelwyd, mae'r rhan fwya' wedi dod nôl. Hyd yn oed y rhai sydd wedi bod yn byw yng Nghaerdydd am rai blynyddoedd, maen nhw wedi dod nôl, yn magu eu plant eu hunain ac mae'r rhod yn troi eto."

"Fi'n credu bod yr ardal yma yn hynod, hynod lwcus. Does dim prinder brwdfrydedd o gwbwl. A dwi'n hollol obeithiol am y dyfodol."


Mansel Phillips

Image copyright Mansel Phillips

Mae gŵr Eirlys, Mansel Phillips, a enillodd Dlws John a Ceridwen yn Eisteddfod yr Urdd 2005 am wneud cyfraniad sylweddol i ieuenctid Cymru, yn cofio'r brwdfrydedd yn lleol pan sefydlwyd yr Aelwyd nôl yn 1979.

"Roedden ni'n rhan o dîm oedd yn teimlo bod eisiau rhywbeth i bobl ifanc y pentre i ddod ar ôl ysgol, rhywbeth cymdeithasol.

"Prifathro gymharol newydd yn Ysgol Hafodwenog ar y pryd, Berwyn Jenkins, alwodd y cyfarfod cyntaf, a daeth criw o rhyw saith ohonon ni ynghyd. O'n ni moyn rhywbeth i'r pentref a'r ardal.

"Dim i gystadlu wnaethon ni sefydlu i ddechre. Trefnu rhaglen bob nos Iau yn ystod tymor y gaeaf ac ambell beth yn y gwanwyn a'r haf. Wedyn dros y blynyddoedd fe ddaeth y cystadlu yn rhan ohono fe, gyda'r canu a'r dawnsio.

"Mae dal i fod rhaglen o weithgareddau sy'n denu'r plant a phobl ifanc.

"I fi yn bersonol, mae wedi bod yn bleser mawr i fod yn rhan o'r Aelwyd. Mae'n arbennig. Nid dim ond ein plant ni, ond mae plant yr ardal wedi elwa. Mae wedi cynnig lot o hwyl a sbri, ac o'n ni'n gwybod bod ein plant ni yn saff.

"Mo'yn cymryd rhan, yw'r gyfrinach, wedyn mae'r plant a phobl ifanc yn joio."


Lleucu Phillips

Bu Lleucu Phillips un o ferched Eirlys a Mansel, yn brif arweinydd yr Aelwyd am gyfnod, tan yn ddiweddar, ac yn mwynhau'r cyfle i roi yn ôl i'r bobl ifanc, ar ôl elwa ar y profiadau dros y blynyddoedd.

"Mae'r Aelwyd wedi bod yn bwysig iawn i fi. Pan o'n i'n fach, o'n i'n mynd ar dripiau gyda'r criw, achos roedd Mam a Dad yn helpu mas. Wedyn o'n i ffili aros i ddechre mynd fy hunan.

Image copyright Tegwyn Roberts
Image caption Lleucu, yn y canol gyda Tudur a Cerian yn cystadlu mewn Eisteddfod yn 1998: roedd y ddwy chwaer yn cyfeilio i Tudur

"Mae e wedi fy mharatoi i, dwi nawr yn hyderus yn siarad cyhoeddus, achos ddechreues i gystadlu yn ifanc, a siarad gyda phobl yn yr ardal.

"Fi wastad wedi bod yn ferch fy milltir sgwâr, dim jyst oherwydd yr Aelwyd, ond hefyd y Ffermwyr Ifanc a dawnsio gyda Dawnswyr Talog. Hyd yn oed pan o'n i bant yn y coleg bydden i'n helpu mas gyda'r corau neu'r dawnsio gwerin, o'n i'n excited bod yr Aelwyd ddim yn beni pan o'n i'n mynd i'r coleg.

"Fi'n gweld e fel anrhydedd enfawr bo fi wedi cael fy newis fel prif arweinydd, mae e'n lyfli meddwl bod Mam a Dad yn y criw wnaeth ddechre'r Aelwyd a nawr dwi wedi cael y cyfle hefyd.

"Ni wedi cael ein magu gyda hyn. Mae'n ffordd o fyw i ni."


Tudur Phillips

Mae'r cyflwynydd teledu a chlocsiwr Tudur Phillips erbyn hyn yn byw yn Garnfadryn ym Mhen Llŷn gyda'i wraig Anni Llŷn a Martha, eu merch fach.

Diolch i'w brofiadau gydag Aelwyd Hafodwenog, meddai, y mae bellach yn cyflwyno teledu a dysgu clocsio mewn ysgolion.

"O'n i'n lwcus iawn i fod yn rhan o Hafodwenog, oedd Mam a Dad a lot fawr o unigolion eraill yn ein dysgu ni, ac oedd y safon yn uchel, ac yn lot fawr o hwyl. Oedd hynny yn ein cadw ni i ddod," meddai.

"Ges i fy swydd ar y teledu o achos y clocsio, achos ar ôl i fi ymgeisio am Ysgoloriaeth Bryn Terfel tua 12 mlynedd yn ôl fe ges i gynnig gwaith gyda chwmni teledu Boomerang.

Tudur yn ymgeisio am Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2008 Image copyright Lluniau Llwyfan
Image caption Tudur yn ymgeisio am Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2008

"Felly dwi wedi cael bywoliaeth fwy neu lai, o'r hyn roedd yr Aelwyd yn gallu cynnig i fi."

Erbyn hyn mae Tudur yn mynd o gwmpas ysgolion a cholegau yn cynnal sesiynau clocsio a Clocsffit, gan roi'r cyfle i blant ddysgu rhai o'r sgiliau a ddysgodd e'n blentyn trwy'r Aelwyd.

"Fi'n cofio Mam a Dad yn hyfforddi pan o'n i'n fach ac o'n i eisiau bod fel y bois yn neud eu triciau, o'n i'n edrych lan ar y criw a meddwl 'dwi eisiau bod fel 'na'.

Arweinyddion yr Aelwyd yn 1989 Image copyright Mansel Phillips
Image caption Arweinyddion yr Aelwyd yn 1989

"Fi'n credu ei bod hi'n bwysig nawr i fi ddangos i bobl ifanc shwt ma' 'neud y pethe o'n i'n meddwl oedd yn cool pan o'n i'n iau.

"Mae'r ffaith bod Mam a Dad a chriw o gatre wedi sefydlu Aelwyd 40 mlynedd yn ôl, yn neud i fi feddwl. Sdim byd fel 'na ochrau yma o Ben Llŷn, mae rhywbeth ynddo fi, fi moyn creu grwpiau dawnsio gwerin a clocsio lan ffordd hyn, i gystadlu rhyw ddydd!"


Cerian Phillips

Mae Cerian Phllips hefyd wedi ymgeisio am Ysgoloriaeth Bryn Terfel am ddawnsio gwerin, ac yn diolch i'r Aelwyd am y cyfleoedd dros y blynyddoedd.

"Cyfleoedd yw'r gair dwi'n meddwl amdano, cyfle i gystadlu a chyfle i wneud ffrindiau ac i gymdeithasu trwy'r Gymraeg sy'n bwysig iawn.

"Dwi wedi cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel dair gwaith, ac mae hynny wedi arwain at y cyfle i fentora ac eleni dwi ar y panel beirniadu ym mis Hydref.

Cerian yn ymgeisio am Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2012 Image copyright Lluniau Llwyfan
Image caption Cerian yn ymgeisio am Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2012

"O ran gyrfa, mae fy mhrofiadau yn hyfforddi gyda'r Aelwyd yn un o'r rhesymau pam es i mlaen i fod yn athrawes addysg gorfforol. Roeddwn wedi magu hyder o hyfforddi plant yn ifanc, i fynd ymlaen i ddysgu a helpu pobl ifanc.

"Mae'r tri ohonon ni wedi bod mor lwcus, mae'r Aelwyd wedi chwarae rhan fawr o'n bywydau ni ers pan oedd Mam a Dad yn hyfforddi, ac mae'n neis nawr i allu rhoi yn ôl."

Hefyd o ddiddordeb: