'Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i lai o gwynion'

Aled Roberts
Image caption Mae Aled Roberts yn dweud ei bod yn bwysig gweithredu'n effeithlon

Dywed Cymdeithas yr Iaith bod ganddynt wybodaeth newydd sy'n dangos bod Comisiynydd newydd y Gymraeg wedi gwrthod ymchwilio i dros 70% o gwynion a dderbyniodd am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg yn ei fis cyntaf yn y swydd a mai dyma y ganran uchaf ers i'r safonau ddod i rym.

Mae'r Gymdeithas yn credu bod y ffigyrau, a dderbyniwyd drwy gais rhyddid gwybodaeth, yn dangos fod "perygl y bydd y cyhoedd yn colli ffydd" yng ngwaith Aled Roberts.

Ond mae Aled Roberts yn mynnu mai'r "budd gorau i'r cyhoedd yw blaenoriaeth Comisiynydd y Gymraeg wrth ddelio â chwynion am ddiffyg defnydd neu ddefnydd anfoddhaol o'r Gymraeg".

Ychwanegodd mai datrys diffygion a gwella'r gwasanaeth Cymraeg yw'r flaenoriaeth, a'i fod yn ystyried hyn wrth benderfynu a fydd yn cynnal ymchwiliad ffurfiol i gŵyn.

Ffigyrau'n amrywio

Mae ffigyrau Cymdeithas yr Iaith yn dangos fod Mr Roberts wedi ymchwilio i 26% o'r cwynion a dderbyniwyd yn ystod ei fis cyntaf yn y swydd - ffigwr a honnir sy'n llawer is na'r un mis yn y tair blynedd ddiwethaf.

Mae yr un ffigyrau yn nodi bod y cyn-Gomisiynydd, Meri Huws, wedi ymchwilio i 75% o'r cwynion a dderbyniodd ym mis Ebrill 2018.

Ond dywed y Comisiynydd iddo rhwng Ebrill a Gorffennaf 2019, dderbyn 43 o gwynion gan y cyhoedd lle roedd amheuaeth bod sefydliad yn torri un neu ragor o'u dyletswyddau i ddefnyddio'r Gymraeg.

Ychwanegodd Mr Roberts ei fod wedi agor ymchwiliad statudol i 21 (48%) ohonynt. Roedd y 22 cwyn arall, meddai, yn gwynion lle roedd y sefydliadau dan sylw wedi cadarnhau eu bod wedi cymryd camau i ddatrys y mater neu wedi ymrwymo i wneud, ac wedi rhoi sicrwydd digonol bod y mater yn annhebygol o ddigwydd eto.

Mae'r Gymdeithas yn honni hefyd bod gohebiaeth rhwng y Comisiynydd a Gweinidog y Gymraeg, sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar, yn dangos bod y Comisiynydd wedi newid ei bolisi ar ymdrin â chwynion yn dilyn pwysau gan y Llywodraeth.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith: "Y pryder rydyn ni'n ei glywed gan nifer o aelodau'r Gymdeithas yw nad ydyn nhw'n teimlo bod y system gwyno, ers i Mr Roberts gael ei benodi, yn blaenoriaethu buddiannau siaradwyr Cymraeg bob tro.

"Mae gwrthod agor ymchwiliadau i gymaint o gwynion yn mynd i wanhau ein hawliau iaith os yw'r patrwm yn parhau. Heb ymchwiliadau i gwynion, does dim modd gorfodi unrhyw newid i bolisi neu aferion sefydliad.

"Felly, mae perygl, drwy ymddwyn fel hyn, y bydd cyrff yn cael y neges ei bod yn iawn iddyn nhw anwybyddu'r gyfraith. Mae 'na berygl hefyd y bydd y cyhoedd yn colli ffydd yn y Comisiynydd i ymdrin â'u cwynion o ddifrif.

"Mae'n warthus bod y Llywodraeth wedi dwyn pwysau ar y Comisiynydd i gymryd agwedd sy'n fwy ffafriol i gyrff a chwmnïau. Mae'n hollol annerbyniol hefyd bod swyddfa'r Comisiynydd wedi ildio a mabwysiadu polisi newydd ar ddelio â chwynion - fe ddylen nhw fod yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth. Fel arall, pwy sy'n mynd i amddiffyn yr iaith a'i siaradwyr?"

Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg: "Mae pob un ymchwiliad statudol yn cymryd tua 6 mis i'w gwblhau. Wrth gwrs, mae yna achosion yn codi sy'n golygu mai dyma'r llwybr mwyaf priodol i ddelio ag achosion, a defnyddio mhwerau i orfodi sefydliadau i wella'u trefniadau. Rydw i wedi dilyn y llwybr yma gyda bron i hanner yr achosion y mae'n bosib i mi ymchwilio iddyn nhw.

"Yn hanesyddol, roedd ymchwiliadau llawn yn cael eu hagor i'r mwyafrif helaeth o gwynion lle roedd yna amheuaeth o fethiant. Roedd ymchwiliad llawn yn digwydd hyd yn oed pan oedd sefydliad eisoes yn cymryd camau i gywiro'r mater ac i roi trefniadau mewn lle i sicrhau nad oedd yn digwydd eto."

Ychwanegodd Ms Davies ar ran Cymdeithas yr Iaith: "Wrth reswm, rydyn ni'n falch bod swydd y Comisiynydd wedi'i hachub - mae amddiffyn ein hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn hollbwysig. Mae'n rhaid i Aled Roberts barhau i ddangos gwerth y swydd fel rheoleiddiwr sy'n annibynnol ar y Llywodraeth, fel y gwnaeth ei ragflaenydd.

"Roedden ni wedi'n calonogi'n ddiweddar gan ei sylwadau am bwysigrwydd y diwydiant amaeth a phwysigrwydd cymunedau Cymraeg ynghyd â'i ffocws ar bwysigrwydd cynllunio'r gweithlu i ffyniant y Gymraeg. Ond mae angen iddo brofi hefyd ei fod yn cymryd ei waith fel rheoleiddiwr o ddifrif."

'Angen gweithredu'n effeithlon'

Ychwanegodd Aled Roberts: "Pe bawn i'n agor ymchwiliad llawn, ffurfiol, i bob achos, a threulio 6 mis yn gweithio ar ddatrysiadau i faterion sydd eisoes wedi cael eu datrys ers peth amser; yna dydw i ddim yn credu y buaswn i'n defnyddio adnoddau cyfyngedig fy swyddfa yn y ffordd mwyaf effeithlon posib.

"Dydw i ddim chwaith yn meddwl mai dyna fyddai'r gwasanaeth gorau y gallwn ei gynnig i siaradwyr Cymraeg ac i wella sefyllfa'r iaith.

"Rydw i wedi cryfhau'r ffordd ydyn ni'n monitro'r sut mae sefydliadau'n ymateb i ymchwiliadau a chamau gorfodi, fel na fyddwn ni mewn sefyllfa eto lle rydyn ni'n ymchwilio i'r un mater dro ar ôl tro."

Ategodd bod y camau o gyflwyno newidiadau i'r drefn ymchwilio i gwynion wedi cychwyn yn 2018 pan wnaeth y Comisiynydd gomisiynu archwiliad mewnol i'r trefniadau.

Arweiniodd hynny, meddai, at wneud addasiadau i'r drefn er mwyn galluogi'r Comisiynydd i ystyried sylwadau gan sefydliadau cyn dod i benderfyniad i agor ymchwiliad ai peidio.

Cadarnhaodd Mr Roberts bod hynny'n addasiad i'r drefn oedd yn bodoli'n flaenorol ond ei bod yn gyson â pholisi gorfodi'r Comisiynydd ac wedi arwain at lai o ymchwiliadau statudol yn cael eu hagor ac achwynwyr yn derbyn ymatebion yn gynt.

Straeon perthnasol