Ymgynghori ar gais UNESCO ardal lechi Gwynedd

Chwarel Dinorwig ger Llanberis Image copyright Getty Images
Image caption Mae Chwarel Dinorwig yn un o'r safleoedd sy'n rhan o'r cais

Mae yna wahoddiad i'r cyhoedd fynegi barn ar gynllun drafft sy'n amlinellu sut y gallai ardal lechi Gwynedd elwa petai'n llwyddo i sicrhau statws Treftadaeth y Byd.

Mae'r ymgynghoriad yn rhan o'r gwaith paratoi cyn bod rhaid cyflwyno cais terfynol i gorff treftadaeth y Cenhedloedd Unedig, UNESCO, yn yr hydref.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU enwebu'r hen ardal lechi fel Safle Treftadaeth y Byd posib y llynedd.

Petai'r cais yn llwyddo fe fyddai'r ardal ar yr un rhestr ag atyniadau amlwg fel y Taj Mahal, Pyramidiau'r Aifft a Mur Mawr China.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 30 Medi ac mae disgwyl penderfyniad terfynol i'r cais yn ystod haf 2021.

Image copyright RCAHMW
Image caption Mae'r cais hefyd yn cynnwys Chwarel y Penrhyn ym Methesda

Mae 31 o safleoedd treftadaeth UNESCO eraill ym Mhrydain, gan gynnwys tri yng Nghymru: dyfrbont Pontcysyllte, ardal ddiwydiannol Blaenafon a chestyll Gwynedd.

Mae'r cais yn cael ei baratoi gan Gyngor Gwynedd ar ran Grŵp Llywio Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, ac yn cynnwys saith safle o fewn y sir a Pharc Cenedlaethol Eryri:

  • Chwarel y Penrhyn a Bethesda, a Dyffryn Ogwen at Borth Penrhyn;
  • Tirwedd fynyddig Chwarel Dinorwig;
  • Tirwedd Chwareli Dyffryn Nantlle;
  • Chwareli Gorseddau a Thywysog Cymru y rheilffyrdd a'r felin yng Nghwmystradllyn a Chwm Pennant;
  • Mwyngloddiau a chwareli llechi, Ffestiniog, a'r rheilffordd i Borthmadog;
  • Chwarel Bryneglwys, pentref Abergynolwyn a Rheilffordd Tal-y-llyn; a
  • Chwarel Aberllefenni.

Mae'r cynllun rheolaeth drafft yn egluro sut y byddai Cyngor Gwynedd "yn ymdopi â newid yn yr ardal yn dilyn y dynodiad ac yn defnyddio'r statws i warchod, hyrwyddo a gwella'r ardal er budd cymunedau lleol ac ymwelwyr".

Image caption Mae modd defnyddio'r statws i warchod y tirlun a sicrhau manteision economaidd, yn ôl y cynghorydd Gareth Thomas

"Ein bwriad gyda'r gwaith ydi dathlu ein hanes, ond hefyd i ddefnyddio'r cyfle i adfywio cymunedau trwy dreftadaeth a chreu cyfle newydd a chyffrous i fusnesau," meddai'r aelod o gabinet y cyngor sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd, y cynghorydd Gareth Thomas.

"Gallai sicrhau Statws Safle Treftadaeth y Byd ddod a miliynau o bunnau i'r economi leol, creu swyddi newydd a gallai'r statws ddyrchafu Gwynedd a'i arwyddocâd hanesyddol yn llygaid gweddill y byd.

"Er mai saith o safleoedd fyddai'n ffurfio'r statws Treftadaeth y Byd, y gobaith yw y byddai'n annog ymwelwyr o bell ac agos i grwydro o un lleoliad i'r llall - gan ledaenu'r budd economaidd i gymunedau ledled Gwynedd.

"Wrth gwrs, mae'n ddyletswydd arnom fel Cyngor i sicrhau ein bod yn rheoli a gwarchod y tirlun a gweithio gyda'r gymuned leol a busnesau er mwyn dod a'r budd gorau i'r ardal."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol