Arestio gyrrwr a darodd car heddlu oedd yn ei ddilyn

Cerbydau'r achos cwrso Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi lluniau'n dangos y difrod i'r ddau gerbyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio gyrrwr a darodd cerbyd heddlu oedd yn ceisio ei stopio wrth yrru ar gyflymder yng Ngwynedd.

Dywed y llu bod car Audi wedi cael ei ddwyn wedi lladrad ym Manceinion gan rywun â chyllell cyn i'r cerbyd gael ei weld ar yr A55 ger Bangor.

Fe darodd gyrrwr yr Audi y cerbyd heddlu a gyrru yn ei flaen cyn dod i stop wedi gwrthdrawiad.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd fe gafwyd hyd i gyllyll ym mhoced drws yr Audi.

Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image copyright Heddlu Gogledd Cymru