BBC Cymru Fyw

Y môr-ladron Cymreig

Published

Gyda chymaint o arfordir o'i chwmpas mae Cymru wedi cynhyrchu rhai o longwyr a hwylwyr gorau'r byd.

Ond ar un cyfnod roedd ein gwlad fach yn adnabyddus am fagu môr-ladron a oedd yn gyrru ias lawr cefnau criwiau llongau masnach ar draws y byd.

image copyrightWiki/Commons
image captionBartholomew Roberts - neu Barti Ddu

Barti Ddu

Un o'r enwocaf un ohonynt oedd Bartholomew Roberts, neu Barti Ddu fel rydyn ni'n ei adnabod.

Ganwyd ef yn Nghasnewydd Bach, Penfro yn 1682 a'r enw roddodd ei fam a'i dad arno oedd John Roberts. Does neb yn gwybod pam y newidiodd ei enw o John i Bartholomew ond mi roedd yn arfer ymysg môr-ladron bryd hynny i gymryd ffugenw. Ond ni chafodd yr enw 'Barti Ddu' ei ddefnyddio amdano yn ystod ei fywyd.

Mae'n debyg iddo fynd i'r môr pan oedd yn 13 oed a daeth yn llongwr da. Yn 1719, roedd yn ail fêt ar long oedd yn cludo caethweision o Affrica. Pan oedd y llong wedi'i hangori ar arfodir gorllewin Affrica ymosododd môr-leidr arall o Gymru Hywel Davies arni.

Roedd Hywel Davies o Aberdaugleddau, wedi bod yn dwyn llongau ers tua 11 mis ac wedi cael cryn hwyl arni. Wedi cipio'r llong gorfododd Hywel Davies i Bartholomew ymuno â'i griw o fôr-ladron a dyna a wnaeth.

image copyrightWiki/Commons
image captionHywel Davies ar gerdyn sigaréts

Ond chwe wythnos wedyn cafodd Hywel ei saethu'n farw pan ar y ffordd i yfed gwinoedd gyda llywodraethwyr Portiwgal. Yn syth roedd rhaid cael capten newydd i'w long a daeth Barti Ddu i'r adwy ac ar long y Royal Fortune cychwynnodd Barti ei 'yrfa' ryfeddol ac enwog.

Yn araf aeth enw Bartholomew Roberts yn gyffredin iawn ar ddeciau llongau'r byd. Un tro mi hwyliodd i ganol llynges o 42 o longau, dwyn carcharor oddi ar un llong a gorfodi'r creadur hwnnw i ddweud pa long oedd y mwyaf gwerthfawr cyn ei dwyn a chilio dros y gorwel.

Cymaint oedd y sôn amdano nes i bob un o griwiau 22 o longau redeg i ffwrdd o harbwr yn Newfoundland ar ôl clywed bod y Cymro wedi glanio yno.

Credai rhai mai'r rheswm dros ei lwyddiant fel môr-leidr oedd ei fod yn cadw trefn a disgyblaeth dda iawn ar ei griw, ac yn gwahardd yfed unrhyw ddiodydd meddwol pan allan ar y môr.

Ar un o'i longau y chwifwyd y faner Penglog ac Esgyrn am y tro cyntaf; cyn hynny roedd ganddo luniau o angau a phenglogau ar ei faner ei hun.

image copyrightWiki/Commons
image captionUn o faneri Barti Ddu, yn ei ddangos yn sefyll ar benglog rhywun o Barbados a Martinique

Erbyn 1722 roedd Barti wedi dwyn 470 o longau, y mwyaf erioed yn hanes môr-ladron ac roedd awdurdodau'r byd wedi cael llond bol ar y Cymro cythryblus.

Y flwyddyn honno er mwyn ceisio ei ddal anfonodd llynges Lloegr long ryfel, HMS Swallow, i fynd ar ei ôl. Yn ymyl Cape Lopez, yng nghanolbarth Affrica fe ddaeth ar draws y Royal Fortune, cwch y Cymro, a bu ymladd mawr rhwng y ddwy.

Wrth i Bartholomew Roberts sefyll ar fwrdd ei long yn annog ei griw i ymladd ymlaen, cafodd ei daro yn ei wddf gan fwled a bu farw yn y fan a'r lle. Taflwyd ei gorff i'r môr yn ôl ei ddymuniad.

Wedi colli eu capten, ildiodd gweddill y criw i'r awdurdodau a chafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw eu crogi.

Mae enwau Barti Ddu a Hywel Davies yn parhau i deithio'r byd gan fod y gêm gyfrifiadurol boblogaidd Assasin's Creed IV: Black Flag o 2013 yn cyfeirio at Hywel pan mae ei long yn cael ei dilyn gan y cymeriad Edward Kenway pan oedd hwnnw'n chwilio am Barti Ddu.

Tomos Prys

Ganwyd Tomos tua 1564 i deulu cefnog ym Mhlas Iolyn, Sir Ddinbych ond er bod gan ei deulu hanes fel perchnogion tir llwyddiannus, roedd tynfa'r môr yn ormod iddo. Am gyfnod bu'n ymladd yn rhyfeloedd yr Iseldiroedd dan Iarll Leicester a bu hefyd, yn 24 oed, yn y fyddin yn gwrthwynebu Armada Sbaen yn 1588.

image copyrightWiki/Commons
image captionTomos Prys

Treuliodd flynyddoedd lawer fel môr-leidr ac roedd hefyd yn fardd, ac mae cerdd ganddo, Mynd i'r Môr, yn dweud ei hanes yn prynu llong ac yn mynd i ladrata ac ysbeilio ar arfordir Sbaen.

Tomos Prys a'i gyfaill Gwilym 'Canol Dref' o Lansannan, oedd y dynion cyntaf a feiddiodd i ysmygu baco, ar ffurf sigârs, yn gyhoeddus ym Mhrydain. Ar strydoedd Llundain y digwyddodd hynny, yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, a bu beirniadu mawr arnyn nhw.

Bu'n byw ar Ynys Enlli am ychydig, priododd ddwywaith ac roedd ganddo 13 o blant i gyd. Yn wahanol i lawer o fôr-ladron eraill, marw ar y tir sych wnaeth Tomos Prys.

Harri Morgan

Daeth Harri Morgan (neu Henry Morgan, ei enw bedydd) yn adnabyddus drwy'r byd am ei ymosodiadau ffyrnig ar longau o Sbaen yn y Caribî. Ganwyd ef yn 1635 yn Llanrhymni, Caerdydd neu ym Mhencarn, Sir Fynwy.

Dysgodd Harri ei grefft o ymosod ar longau eraill drwy gael trwydded gan Lywodraeth Lloegr i fod yn breifatîr (rhywun a gâi ei gyflogi adeg o ryfel gan lywodraeth un wlad i ymosod ar longau gwlad arall i ddwyn eu cyfoeth, arfau ac yn y blaen).

image copyrightWiki/Commons
image captionHarri Morgan

Yn 1655 cyrhaeddodd Barbados dan orchymyn Oliver Cromwell. Yno priododd ei gyfnither oedd yno'n gweithio fel Is-Lywodraethwr.

Yn ogystal ag ymosod ar a chipio llongau o Sbaen roedd hefyd yn ysbeilio trefi ar arfordir Mecsico, Panama a Chiwba. Yn 1668 cipiodd dinas Portobello ym Mhanama gyda llynges a byddin o tua 450 o filwyr. Treuliodd bythefnos gyfan yn dwyn ei thrysorau.

Hanes tebyg oedd pan gipiodd ddinas Panama ei hun. Cyrhaeddodd Harri Morgan yr arfordir gyda 36 llong a bu rhaid iddynt gerdded dros y mynyddoedd a thrwy'r jyngl garw er mwyn cyrraedd y ddinas. Ar ôl cymryd y ddinas, fe'i rhoddodd ar dân cyn troi am adref gydag aur, arian, gemau a channoedd o gaethweision.

Bu farw o achosion naturiol yn 25 Awst, 1688. Claddwyd ef yn Palisadoes, Jamaica, ond diflannodd y dref i'r môr wedi daeargryn mawr yn 1692. Er bod digon o luniau wedi eu tynnu ohono dros y canrifoedd gan arlunwyr di-ri, y llun enwocaf yw hwnnw ar y poteli Captain Morgan Rum.

image copyrightSOPA Images
image captionY rỳm sydd wedi ei enwi ar ôl Harri Morgan yw un o rỳms mwyaf poblogaidd y byd

Biwmares

Roedd Biwmares ar un cyfnod yn lle enwog iawn am fôr-ladron a smyglo ac ati.

Priododd merch William Bulkeley, y dyddiadurwr a'r tirfeddiannwr cefnog o Fiwmares, breifatîr o'r enw Fortunatus Wright a ddaeth yn enw mawr yn ystod y 1700au ac mae hanesion amdano'n cipio llongau o Ffrainc a Thwrci.

Mae dyddiaduron William Bulkeley o'r cyfnod yn nodi mai dyn cas iawn oedd Fortunatus a'i fod yn ffiaidd iawn tuag at ei wraig, merch William.

image copyrightHulton Archive
image captionBiwmares tua 1750

Yn dilyn helyntion ar y môr gyda Fortunatus a honiadau nad oedd bod yn breifatîr yn ddim gwahanol i fod yn fôr-leidr wedi ei noddi gan y wlad, daeth yr arfer i ben yng nghanol y 1800au.

Ar drwyn o dir ar y ffordd i mewn i Fiwmares o Borthaethwy gosodwyd caets haearn ar bolyn mawr. Pe bai môr-leidr yn cael ei ddal mi fyddai'n cael ei grogi a'i gorff yn cael ei roi yn y caets i'w fwyta gan frain, fel rhybudd i fôr-ladron eraill. Gallow's Point yw'r enw hyd heddiw ar y lle.

Hefyd o ddiddordeb:

  • Adar brith: Y Cymry sydd yn enwog am y rhesymau anghywir...
  • Cymro wnaeth roi America ar y map
  • Y Gymraes a gladdwyd wrth y lan ym Mhatagonia

Pynciau Cysylltiedig

  • Hanes