Dyn wedi'i anafu'n ddifrifol mewn digwyddiad yn Y Rhyl

Stryd yr Eglwys Image copyright Google
Image caption Fe gafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Stryd yr Eglwys yn oriau mân fore Mawrth

Mae dyn yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol yn dilyn digwyddiad yn Y Rhyl, Sir Ddinbych yn oriau mân fore Mawrth.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod wedi ymateb i ddigwyddiad ar Stryd yr Eglwys am 01:38.

Fe gafodd y dyn, sy'n 43 oed ac o'r ardal, ei gludo i'r ysbyty fore Mawrth lle mae'n parhau mewn cyflwr difrifol.

Mae'r ardal benodol o'r stryd wedi'i chau tra bod swyddogion yn ceisio datrys amgylchiadau'r digwyddiad.

Dywedodd y Prif Arolygydd Andrew Williams y byddai'r stryd yn ailagor yn fuan.

"Rydyn ni'n dal eisiau i bobl gysylltu gyda ni gydag unrhyw wybodaeth, yn enwedig os oedden nhw yn ardal Stryd yr Eglwys rhwng 01:15 ac 01:30 y bore 'ma."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod X116491.

Pynciau Cysylltiedig