Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-1 Luton Town

Aden Flintyn sgorio i Gaerdydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Aden Flint ei gôl gyntaf i Gaerdydd ers ymuno â'r clwb o Middlesbrough

Fe sgoriodd Isaac Vassell gôl ddramatig funudau ar ôl dod i'r maes am y tro cyntaf dros Gaerdydd i sicrhau triphwynt a buddugoliaeth gyntaf y tymor yn y Bencampwriaeth i dîm Neil Warnock.

Er i'r gwrthwynebwyr, sydd newydd godi i'r Bencampwriaeth, gael cyfnodau hir o'r meddiant, yr Adar Gleision wnaeth creu'r nifer fwyaf o gyfleoedd i sgorio.

Serch hynny, bu'n rhaid aros tan yr ail hanner am y goliau - y gyntaf o ganlyniad ergyd Aden Flint o gic rydd Josh Murphy wedi 52 o funudau.

Fe darodd Luton yn ôl gyda phedair munud i fynd cyn amser ychwanegol wedi peniad cadarn Matt Pearson o gôc gornel Luke Berry.

Ond fe gysylltodd pen Vassell â chroesiad gan ei gyd-eilydd, Junior Hoilett, i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref gan ysgogi dathliadau ymhlith cefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Straeon perthnasol