Angen 'amrywiaeth' mewn llenyddiaeth plant

LLyfrau ar stondin Cyngor Llyfrau
Image caption Bob blwyddyn mae gweisg Cymreig yn cyhoeddi llyfrau plant sydd wedi eu haddasu o'r Saesneg yn ogystal â rhai Cymraeg gwreiddiol

Fe ddylai cyhoeddwyr llyfrau o Gymru edrych ar gyfresi o dramor er mwyn cael gwell amrywiaeth cymeriadau yn eu llyfrau.

Dyna mae cyfarwyddwr corff sy'n hyrwyddo llenyddiaeth drwy gydweithio rhyngwladol wedi ei ddweud yn ystod trafodaeth ar bwysigrwydd llenyddiaeth gynhwysol ar gyfer cenhedlaeth iau.

Yn ystod sesiwn drafod ar faes y Brifwyl ddechrau'r wythnos dywedodd Elin Haf Gruffudd Jones o Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau bod modd cael mwy o ddeunydd os byddai gweisg Cymreig yn ystyried prosiectau cyfieithu gydag ieithoedd eraill.

"I mi, does dim rhaid edrych ar y Saesneg bob tro am addasiadau, a does dim angen edrych ar gomisiynau yn unig chwaith, ond fe fyddai'n dda edrych tu hwnt i'r meysydd arferol er mwyn dod o hyd i bethau."

"Mae yna enghraifft o hynny ar hyn o bryd," meddai, "lle mae ganddon ni ddau lyfr gan awdur o Sbaen, mae'r dylunydd o Latfia ac mae'r llyfr wedi cael ei addasu i'r Czech ac Iseldireg.

"Ar hyn o bryd maen nhw'n mynd am ail rediad, felly yn sicr fe fyddai hyn yn gyfle i ni gael y llyfrau yn y Gymraeg.

"Mae hwn yn brosiect real, go iawn, y gellid ei wneud nawr. Y gobaith ydy y bydd modd trafod hyn gyda gwasg yng Nghymru yn fuan."

Image caption Mae'r stori hon yn y Sbaeneg yn adrodd hanes bachgen bach, ei gath a'i ddwy fam

Yn ôl Dr Siwan Rosser o Brifysgol Caerdydd, pwrpas y drafodaeth ar faes yr Eisteddfod oedd gofyn i weisg gwestiynu yn hytrach na chymryd pethau yn ganiataol wrth ddewis a dethol straeon.

"Mae 'na ychydig o lyfrau wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar sydd yn amlwg yn dathlu amrywiaeth, a hawl pob plentyn i fod yn nhw eu hunain - ond codi'r cwestiwn oeddwn ni a oedd y rhain yn ddigonol, yn mynd yn ddigon pell, ac oes yna ddigon ohonyn nhw," meddai.

Yn mis Rhagfyr 2017 fe wnaeth Dr Rosser gynnal arolwg ar lyfrau plant a phobl ifanc yn y Gymraeg.

Yn ei hadroddiad i'r Cyngor Llyfrau mae hi'n nodi bod "rhaid wrth fynediad rhwydd i amrywiaeth o lyfrau apelgar i ddarllenwyr ifanc o gefndiroedd amrywiol er mwyn creu 'Cymru sy'n fwy cyfartal' (Deddf Llesiant, 2015)".

"Mae llyfrau llun a stori yn gyfrwng pwerus iawn, ond maen nhw fel arfer yn draddodiadol iawn," meddai.

"Mae angen gofyn y cwestiynau i ba raddau y mae'r rhai mae'n nhw'n eu cynnig yn adlewyrchu y gymdeithas ar hyn o bryd.

""Megis cychwyn mae'r drafodaeth hon, mewn gwirionedd."

Image caption Byddai cael mwy o lyfrau cynhwysol yn arwain at well dealltwriaeth o'r gymdeithas fodern, meddai Meinir Wyn Edwards o'r Lolfa

"Does dim llawer o bethe addas ar gael," meddai Meinir Edwards, Golygydd Cymraeg Y Lolfa, wrth drafod y cyfresi sydd eto i gael eu haddasu.

"Efallai bod angen ystyried comisiynu pobl i sgwennu llyfrau sy'n adlewyrchu cymdeithas fel ag y mae hi nawr.

"Mae un awdur wedi dod aton ni gyda stori i blant, lle mae gan blentyn ddau dad, ac rydyn ni fel gwasg wedi cyhoeddi sawl cyfrol yn ddiweddar sydd wedi gwthio'r ffiniau o ran pwnc.

"Ond y mwya'n y byd o lyfre sy'n cynnwys straeon a chymeriadau amrywiol, y mwya o ddealltwriaeth fydd yna, ac fe fyddai modd i ni gael sgwrs yn agored wedyn.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod yna ystod o lyfrau ar gael ar gyfer pob oed, yn lyfrau stori i blant a llenyddiaeth i'r arddegau, ac mae modd trin y pwnc mewn ffordd sensitif."

Straeon perthnasol