'Ariannu'r Brifwyl yn well i gael miliwn o siaradwyr'

Trystan Lewis Image copyright Eisteddfod Genedlaethol
Image caption Mae Trystan Lewis yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru edrych eto ar y ffordd maen nhw'n ariannu'r brifwyl

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ariannu'r Eisteddfod Genedlaethol yn well os am wireddu'r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ôl cadeirydd pwyllgor lleol Eisteddfod Sir Conwy 2019.

Dywedodd Trystan Lewis wrth Cymru Fyw y byddai'n "wych" cynnal y Brifwyl eto mewn dinasoedd a threfi yn y dyfodol ond bod y drefn gyllido bresennol ddim yn caniatáu hynny.

Fe wnaeth yr Eisteddfod golled o dros £290,000 y llynedd, er i'r trefnwyr ddweud bod "mwy o ymwelwyr nag erioed o'r blaen" wedi cael eu denu i'r 'maes heb ffiniau' ym Mae Caerdydd,

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod "yn parhau i gefnogi'r Eisteddfod, ac wedi darparu cyllid ychwanegol eleni er mwyn apelio at gynulleidfaoedd ehangach".

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant o £880,000 i'r brifwyl eleni.

"Does gen i ddim math o wrthwynebiad i unrhyw Steddfod mewn dinas neu mewn tre', ond ar hyn o bryd, dydi'r modd ariannol ddim yn caniatáu hynny," meddai Trystan Lewis.

"Be fase yn wych fase bod ni'n cael Steddfod mewn maes a chael Steddfod mewn tre' yn y dyfodol. Mae hynny'n dibynnu ar y Cynulliad, os ydyn nhw'n gweld hyn ai peidio.

"Dylsen nhw gysidro, achos y Steddfod ydi'r cadarnle i'r iaith Gymraeg - yr unig wythnos, mewn gwirionedd, lle 'dan ni'n cael wythnos o siarad Cymraeg yn ddi-dor.

"Felly os ydi'r Cynulliad eisio gwireddu'r [strategaeth] miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae rhaid iddyn nhw ariannu'r Steddfod yn well."

Image caption Er bod gymaint wedi ymweld â Bae Caerdydd y llynedd, fe wnaeth yr Eisteddfod golled sylweddol

Mae yna gefnogaeth i'r syniad o gynnal Eisteddfod ddi-faes yng Nghaernarfon mewn dwy flynedd, ond dywedodd Mr Lewis ym mis Tachwedd pan gyhoeddwyd maint colled Prifwyl 2018 "nad oes pwrpas codi gobeithion Caernarfon ar gyfer maes agored yn 2021".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i gefnogi'r Eisteddfod, ac wedi darparu cyllid ychwanegol eleni er mwyn apelio at gynulleidfaoedd ehangach.

"Mae'r Eisteddfod yn parhau i fod yn un o'r dyddiadau allweddol yn y calendr blynyddol, ac mae'n brosiect cymunedol amhrisiadwy sy'n arddangos diwylliant Cymraeg yn lleol ac yn rhyngwladol, yn darparu lle i ddefnyddio / clywed yr iaith ac yn ogystal â chomisiynu llu o waith diwylliannol newydd a cyffrous sy'n gallu cael ei ddefnyddio a'i rannu'n ehangach."

Ymgyrch leol 'ysgubol'

Image caption Mae trigolion Sir Conwy wedi llwyddo i godi ymhell dros targed y gronfa leol

Mae cymunedau Sir Conwy wedi codi ymhell dros £325,000 - targed y gronfa leol - ac mae yna obaith o gyrraedd £400,000.

Mae hynny'n "gwbl ysgubol", medd Mr Lewis, mewn sir "mor amrywiol ei phoblogaeth, o ardal wledig Llangwm a rhan ucha'r dyffryn i lawr i'r glannau" ac mae llawer o drigolion di-Gymraeg llefydd fel Llandudno, Penmaenmawr, Abergele a Bae Colwyn wedi bod "yn hynod gefnogol".

"Dwi'n gw'bod bod ardal Llanfairfechan wedi cael blas anghyffredin," meddai. "Oeddan nhw'n poeni i ddechra' sut fysan nhw'n codi'r arian.

"Ond maen nhw wedi mwynhau codi'r arian. Yn wir 'di o'm 'di bod yn fyrdwn o gwbl, meddan nhw ac maen nhw, gobeithio, yn parhau efo rhyw gymdeithas Gymraeg a digwyddiadau fel bod o'n tynnu'r pentre' at ei gilydd."

Roedd yna stori debyg mewn "lle mor Seisnig â Deganwy", lle mae Trystan Lewis yn byw.

"Oedd gennon ni darged o £25,000 ac o'n i'n gweld hynny yn andros o fynydd i ddringo. Er bod hi'n ardal eitha' ariannog, mae'r criw sydd o Gymry yn fychan ond 'da ni 'di pasio £37,000," meddai.

Manteision newid safle

Bu'n rhaid newid safle'r maes eleni yn Llanrwst am resymau diogelwch gan fod y risg o lifogydd yn y lleoliad gwreiddiol yn achosi problemau yswirio.

"Mae wedi bod yn bryder mawr ond 'dwi'n argyhoeddedig bod y safle yma yn well na'r cynllun cynt," meddai Trystan Lewis.

"Mae'r carafanau'n nes at y dre, mae'r maes yn un cryno ac yn un hwylus."

Image copyright Llyr Serw ap Glyn
Image caption Roedd cerrig yr orsedd Llanrwst dan ddŵr yn dilyn tywydd garw ym mis Mawrth

Mewn ymateb i gwestiwn pa mor agos oedd trefnwyr i beidio cynnal yr ŵyl yn Llanrwst, atebodd: "Oedd hi'n agos iawn ar un adeg.

"Oeddan ni'n sbïo ar wahanol safleoedd o fewn Sir Conwy, hyd yn oed cysidro llefydd nad oedd yn y sir - oedd hi mor agos â hynny."

"Y broblem oedd gen rhywun oedd... er enghraifft, yn Abergele, lle oedd hi yn '95 - a safle Abergele / Llanrwst oedd dan gwestiwn yn y dechre un - roedd Abergele yn peri'r un problemau, yn yr ystyr bod Abergele ar orlifdir hefyd."

Maes traddodiadol

Er yn dychwelyd i gae traddodiadol yn hytrach na "Steddfod ar goncrit" fel y llynedd, mae'r trefnwyr yn gobeithio cyfuno'r gorau o'r ddau fyd yn Llanrwst.

"Dyna sy'n neud Eisteddfod dda", medd Trystan Lewis. "Pan o'n i'n hogyn bach yn mynd i'r Steddfod efo teulu, pafiliwn neu rownd stondina', fwy neu lai, dyna oedd hi.

"Mae 'na gymaint o elfennau gwahanol wedi deillio o Gaerdydd a sy'n dal i ddatblygu."

Gyda'i gefndir fel canwr, arweinydd côr a beirniad cerdd amlwg, mae Trystan Lewis yn falch o amrywiaeth yr arlwy cerddorol yn Llanrwst eleni, gan gynnwys sioe arloesol Y Tylwyth mewn cydweithrediad â'r cwmni syrcas modern Gwyddelig, Fidget Feet.

Mae ganddo un apêl olaf i Eisteddfodwyr: "Wnewch chi, os gwelwch yn dda, barchu'r trefniadau traffig.

"Mae tre' Llanrwst yn her o ddydd i ddydd, ond mae 'na gynllun ardderchog i'r Steddfod os fydd pobol yn glynu at hynny neu fel arall mi fydd hi'n flêr."

Straeon perthnasol