Dyn yn yr ysbyty wedi ymosodiad difrifol yn Abertawe

High Street
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r Stryd Fawr am tua 15:10

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol yn Abertawe brynhawn Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Stryd Fawr, Abertawe am tua 15:10.

Fe gafodd un dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd gan yr Ambiwlans Awyr wedi'r ymosodiad.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod dau berson, un dyn ac un dynes, bellach wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r llu wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.