Derbyn cynllun datblygu newydd Gwynedd a Môn

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae dau awdurdod lleol yn y gogledd wedi rhoi sêl bendith ar ganllawiau cynllunio newydd er gwaethaf gwrthwynebiad gan ymgyrchwyr iaith.

Fis diwethaf, fe wnaeth cynghorwyr oedi cyn cyhoeddi canllawiau cynllunio newydd oedd yn berthnasol i Wynedd a Môn ar ôl clywed gallai fod "heriau cyfreithiol" os nad oedd awdurdodau'n comisiynu asesiadau effaith ar yr iaith Gymraeg ar gyfer datblygiadau newydd.

Yn dilyn cyngor gan swyddogion, a dywedodd nad oedden nhw'n credu fod y canllawiau newydd yn gwanhau'r iaith Gymraeg yn nhermau cynllunio, fe wnaeth y Cyd-Bwyllgor Datblygu roi sêl bendith i'r canllawiau cynllunio atodol.

Roedd pryderon wedi codi ym mis Mehefin gan y bargyfreithiwr Gwion Lewis wrth iddo gynghori Cymdeithas yr Iaith ar y mater.

Effaith andwyol

Yn ôl ymgyrchwyr iaith, roedd y canllawiau newydd yn golygu mai dim ond llond llaw o geisiadau cynllunio fyddai'n cael eu hasesu o ran effaith ar yr iaith Gymraeg.

O ganlyniad, mi fyddai hynny'n ei gwneud hi'n anodd i gynghorwyr wrthod cynlluniau ar gyfer datblygiadau fyddai'n cael effaith andwyol ar yr iaith.

Daw hyn er gwaethaf polisi blaenorol oedd yn datgan fod angen asesiad llawn ar effaith ar yr iaith ar gyfer unrhyw ddatblygiad ble oedd mwy na phum tŷ yn cael eu hadeiladu.

Mae Mr Lewis wedi rhybuddio yn y gorffennol y gallai'r cyngor fod yn agored i heriau cyfreithiol os ydyn nhw'n cymeradwyo canllawiau cynllunio arfaethedig, gan ddweud eu bod yn groes i ddeddfwriaeth Cynulliad.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Cyngor Gwynedd yn arfer mynnu asesiad effaith iaith llawn ar gyfer pob cais i adeiladu pump neu'n fwy o dai

Mae swyddogion o'r ddau awdurdod wedi dweud wrth aelodau o'r pwyllgor fod y canllawiau newydd yn "gadarn".

"Mae'r canllawiau yn cadarnhau fod ystyriaeth yn cael ei roi i'r iaith Gymraeg pan mae'n berthnasol i'r cais cynllunio, ac mae cryfder y polisi newydd yn golygu ei fod yn hyblyg i newid mewn rhai sefyllfaoedd."

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd Gareth Griffith: "Mae'n rhaid cofio fod swyddogion wedi bod yn gweithio ar y canllawiau yma ers 18 mis.

"Rydym wedi bod allan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ac wedi gofyn am farn pwyllgor craffu Gwynedd a dau gwmni allanol i adolygu'r cynlluniau.

"Mae'r cyhoedd wedi cael cyfle i gael dweud eu dweud ac rwy'n fwy na bodlon i gynnig y cynlluniau yma fel rhai sydd wedi cael eu derbyn."

Mwy o eglurder

Ar ôl i'r canllawiau gael eu derbyn yn unfrydol, mae llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn am fwy o eglurder.

"Yn dilyn trafodaethau calonogol gyda chynghorwyr meinciau cefn, rydym yn gobeithio bydd y cynghorau yn addasu ei nodiadau technegol fyddai'n gwneud y sefyllfa'n gliriach," meddai Robat Idris, sy'n parhau i ddweud byddai prinder mewn asesiadau effaith iaith yn gadael cynghorwyr heb dystiolaeth i unai dderbyn neu wrthod cais ar sail yr effaith ar yr iaith Gymraeg.

Ychwanegodd: "Dylai cynghorwyr gael hawl i ofyn am asesiad effaith iaith ar geisiadau cynllunio unigol.

"Rydym yn gobeithio, yn yr wythnosau nesaf fod yr arweinyddion ac uwch swyddogion yn y cynghorau yn agored i weithredu ar y newidiadau ymarferol gafodd ei awgrymu gan Gwion Lewis, sy'n arbenigwr yn y maes," meddai.