Cadarnhad fod stryd fwyaf serth y byd yng Ngwynedd

Gwyn Headley a Sarah Badham
Image caption Gwyn Headley a Sarah Badham, sy'n cyd-redeg grŵp Cymunedol Harlech ar Facebook oedd yn gyfrifol am enwebu'r stryd

Mae stryd yng Ngwynedd wedi cael ei chydnabod fel y stryd fwyaf serth yn y byd.

Daw'r cadarnhad gan Recordiau Byd Guinness fod Ffordd Pen Llech yn Harlech, sydd â graddiant o 1 mewn 2.67 (neu 37.45%) yn y man mwyaf serth.

Mae'r stryd, sy'n cysylltu gwaelod y dref gyda'r castell, wedi cymryd y teitl oddi wrth Stryd Baldwin yn Dunedin, Seland Newydd sydd â graddiant o 35% yn y man mwyaf serth.

Gwyn Headley a Sarah Badham, sy'n cyd-redeg grŵp Cymunedol Harlech ar Facebook, oedd yn gyfrifol am enwebu'r stryd.

Image caption Mae arwydd newydd eisoes wedi ymddangos yn Harlech

Dywedodd Mr Headley: "Rwy'n teimlo rhyddhad ac hapusrwydd. Roedd Recordiau Byd Guinness yn hynod fanwl o ran y gofynion.

"Rwy'n teimlo pechod dros Stryd Baldwin yn Seland Newydd - ond mae serth yn golygu serth."

Dywedodd Craig Glenday, Pennaeth Golygyddol Recordiau Byd Guinness: "Mae'r gymuned leol yn Harlech wedi dangos ymroddiad o ran eu hymgais i sicrhau'r teitl i Ffordd Pen Llech.

"Dwi'n falch o weld fod y canlyniad wedi dod â hapusrwydd i'r cymdogion.

"Dwi'n gobeithio y gwneith Harlech fwynhau'r dathliadau a bod y teitl yn dod â nifer o bobl i'r dref hyfryd i brofi'r stryd fwyaf serth y byd iddyn nhw eu hunain."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol