Tân yn dinistrio hen gampfa focsio yn Sir Caerffili

Tân

Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn ymchwilio wedi i dân ddinistrio hen gampfa focsio yn Sir Caerffili nos Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle'r cyn-ganolfan ieuenctid ym Mhontllanfraith toc cyn 20:45.

Fe wnaeth criwiau o Aberbargod, Abersychan, Maendy a Merthyr Tudful fynychu'r digwyddiad, gyda'r fflamau wedi'u diffodd erbyn 23:30.

Mae arbenigwyr o'r heddlu a'r gwasanaeth tân wedi dychwelyd i'r safle fore Sul er mwyn dechrau eu hymchwiliad i'r digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig