Llygredd amaethyddol yn 'difetha pysgota' yng Nghymru

Hywel Morgan
Image caption Dywedodd Hywel Morgan bod y llygredd wedi bod yn "ergyd fawr i'r economi"

Mae methiant ymdrechion i rwystro slyri rhag llifo fewn i afonydd bron a difetha pysgota mewn rhannau o'r wlad, yn ôl un o bysgotwyr mwyaf llwyddiannus Cymru.

Nid yw cyn-bencampwr y World Casting Championships, Hywel Morgan, bellach yn credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud ei gwaith yn iawn.

Daw'r cwynion wedi achos arall o lygredd amaethyddol yn Afon Dulas, Sir Gaerfyrddin wythnos ddiwethaf, lle cafodd "cannoedd" o bysgod eu lladd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod rheoliadau yn cael eu cyflwyno'n 2020 er mwyn mynd i'r afael â llygredd amaethyddol yng Nghymru.

Roedd y llygredd yn Afon Dulas yn un o nifer o achosion o slyri yn llifo i afonydd dros y misoedd diwethaf.

Fe wnaeth tua 120,000 o alwyni o slyri ollwng i Afon Dyfan yn ardal Cilgerran ger Aberteifi ym mis Ebrill, gan arwain at farwolaeth nifer o bysgod.

Yn ôl CNC roedd tua 106 achos o lygredd amaethyddol mewn afonydd neu ddyfrffosydd yng Nghymru yn 2018.

Image caption Cafodd "cannoedd o bysgod eu lladd" wedi'r achos o lygredd yn Afon Dulas dydd Llun

Ychwanegodd Mr Morgan nad yw'n credu bod yr Afon Teifi wedi dod dros effeithiau llygredd amaethyddol.

"Yn y 50au roedd yr Afon Teifi yn enwog dros Brydain i gyd. Unwaith roedd yr afon yn agor ym mis Ebrill roedden nhw'n dod o lefydd fel Llundain ac yn aros yn yr ardal," meddai.

"Nawr does dim un pysgotwr yn dod i'r ardal yma achos dyw'r pysgod ddim 'ma, achos y llygredd. Felly, mae e wedi dinistrio'r ardal... twristiaeth pysgota - does dim i'w gael yn yr ardal bellach.

"Mae'n ergyd fawr i'r economi, ac nid yn unig i ardal y Teifi... mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud mewn adroddiad bod cyflwr yr eogiaid a sewin yn afonydd Cymru yn critical.

"Efallai mewn dwy, dair blynedd, bydd dim eogiaid, bydd dim sewin, a phwy sydd wedi cwympo'r bel? Cyfoeth Naturiol Cymru."

Image caption Mae un achos o lygredd yn ormod, yn ôl Ioan Williams

Dywedodd arweinydd tîm Sir Gaerfyrddin Cyfoeth Naturiol Cymru, Ioan Williams: "Mae'r honiad yn hollol anghywir, ni'n gwneud y gorau ry' ni'n gallu. Mae'r staff sydd gyda ni 100% am amddiffyn yr amgylchedd yng Nghymru.

"Mae canran uchel o ffermwyr yn treial gwneud y peth iawn, ond yn anffodus dyw rhai ddim yn dilyn y rheolau a ry' ni'n cael problemau oherwydd hynny. Mae un achos o lygredd yn ormod.

"Ry' ni'n gweithio'n agos gyda ffermwyr, undebau a hefyd mae prosiect ar hyn o bryd lle ry ni'n ymweld â phob fferm odro yng Nghymru o fewn y ddwy flynedd nesaf.

"Gobeithio bydd hynny'n galluogi i ni roi'r cyngor i bobl er mwyn gwneud yn siŵr bod problemau fel hyn ddim yn digwydd eto."

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn credu bod 1% o holl ffermydd Cymru yn gyfrifol am yr holl achosion o lygredd amaethyddol dan sylw.

Ychwanegodd y llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cydnabod yr effaith niweidiol mae llygredd amaethyddol yn ei gael ar ecosystemau, ar bobl leol ac ar yr economi yng nghefn gwlad.

"Mae'r rheoliadau arfaethedig yn rhesymol ac wedi eu selio ar enghreifftiau o arfer da. Bydd ganddyn nhw rôl, ynghyd â mesurau eraill, wrth daclo llygredd amaethyddol yng Nghymru.

"Bydd y rheoliadau yn dod i rym ym mis Ionawr 2020 gyda chyfnodau trawsnewidiol er mwyn rhoi amser i ffermwyr addasu a sicrhau cydweithrediad."

Straeon perthnasol