Dyn wedi marw ar ôl i'w gar adael y ffordd ym Mhowys

A483 Image copyright Google
Image caption Fe wnaeth y car adael y ffordd toc cyn hanner nos ger pentref Llanbister

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A483 ym Mhowys nos Iau.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod car Seat wedi gadael y ffordd toc cyn hanner nos ger pentref Llanbister.

Bu farw'r gyrrwr - yr unig berson oedd yn y car - yn dilyn y digwyddiad.

Mae'r heddlu'n annog unrhyw dystion i gysylltu â'r llu trwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig