Y Cymro Evan Hoyt a'i bartner Eden Silva allan o Wimbledon

Evan Hoyt a Eden Silva Image copyright Getty Images
Image caption Evan Hoyt a'i bartner Eden Silva

Mae breuddwyd y Cymro Evan Hoyt o gyrraedd rownd gynderfynol Wimbledon ar ben ar ôl colli yn y dyblau cymysg gyda'i bartner Eden Silva.

Fe gollodd y ddau i Ivan Dodig o Croatia a Latisha Chan o Taiwan o 7-5 7-6 (7-5).

Fe gollodd Hoyt yn rownd gyntaf dyblau'r dynion gyda'i bartner Luke Johnson yn erbyn Nicholas Monroe a Mischa Zverev, ond llwyddodd i gamu ymhellach yn y gystadleuaeth gyda Silva.

Hoyt yw'r Cymro cyntaf i ennill gêm gystadleuol yn Wimbledon ers Sarah Loosemore yn 1990, a'r cyntaf i gyrraedd rownd y chwarteri ers Gerald Battrick yn nyblau'r dynion yn 1975.

Pynciau Cysylltiedig