300 erw ym Mannau Brycheiniog dan ofal cadwraethwyr ifanc

Pobl ifanc yn edrych ar flodau gwyllt

Mae ugain o amgylcheddwyr ifanc o wahanol rannau o Brydain yn dechrau ar y gwaith o ofalu am 300 erw o dir ym Mharc Cenedlaethol Bannau'r Brycheiniog.

Y gred yw taw dyma'r prosiect cadwraeth natur fwyaf yn y byd i gael ei reoli gan bobl ifanc.

Bydd yr "arweinwyr ifanc", rhwng 12 a 17 oed, yn adfer cynefinoedd bywyd gwyllt ac yn arbrofi gyda dulliau cynaliadwy o amaethu a choedwigaeth.

Bydd ffermwyr lleol ac arbenigwyr natur yn darparu cyngor a chymorth gyda syniadau'r plant.

Image copyright Action for Conservation
Image caption Bydd y bobl ifanc yn gyfrifol am gyllid a hyrwyddo'r prosiect yn ogystal â gwaith amgylcheddol

Bydd y criw yn ymgymryd â phob agwedd o reoli'r tir yn Ystâd Penpont ym Mhowys, gan gynnwys plannu coed, cynhyrchu bwyd, delio â chyllid a hyrwyddo'r prosiect.

Fe fydd disgwyl iddyn nhw hefyd gynllunio teithiau ar gyfer plant ysgol lleol ac eraill i ddysgu mwy am gadwraeth.

"'Dwi'n teimlo yn lwcus iawn - mae'n gyfle cyffrous iawn," medd Hannah o Sheffield, un o'r criw sydd wedi'u dewis gan elusen Action for Conservation.

"Mae'n anodd dod o hyd i bobl sydd mor angerddol â finna' dros natur felly mae mor braf bod gyda chymaint ohonyn nhw yn yr un lle."

Image copyright Action for Conservation
Image caption Bydd y bobl ifanc yn rhannu eu profiadau gydag ysgolion a grwpiau lleol

"'Dwi methu aros i gael bwrw ati," ychwanegodd Deep o Lundain, tra bod Lily o Gaergrawnt yn dweud y byddai'n "hollol wych o ran cynnwys pobl ifanc wrth ddiogelu'r amgylchedd".

"Mae'r byd natur mewn gwir berygl - yng Nghymru a thu hwnt," meddai Willow o Gaerdydd. "Ry'n ni angen dod o hyd i ffyrdd creadigol i weddnewid y sefyllfa."

Fe fydd y bobl ifanc yn ymweld â Phenpont bedair gwaith y flwyddyn, gan drefnu cyfarfodydd trwy gyswllt fideo yn y cyfamser.

Does 'na ddim terfyn amser i'r prosiect a'r syniad yw bod plant eraill yn cymryd lle'r 20 presennol wrth iddyn nhw dyfu a gadael yr ysgol am fyd gwaith neu brifysgol.

Image copyright Action for Conservation
Image caption Wrth i'r plant dyfu a gadael yr ysgol, bydd eraill yn cymryd eu lle ar y prosiect

Dywedodd Gavin Hogg, perchennog Ystâd Penpont mai un o'r gwersi mwyaf yr oedd e'n gobeithio ei ddysgu o'r prosiect oedd i "ollwng rheolaeth, gan adael i'r bobl ifanc gael y rhyddid i wneud dewisiadau a rheoli'r tir".

Mae am weld mwy o fioamrywiaeth ar hyd 2,000 erw'r ystâd ac yn gobeithio y bydd ffermydd cyfagos yn ymuno â'r gwaith hefyd.

Ond fe fynnodd y byddai 'na bwyslais mawr ar barhau i ffermio'r tir i gynhyrchu bwyd, yn ogystal â gwarchod natur.

"Ry'n ni'n awyddus iawn i beidio â bod yn un o'r cynlluniau 'rewilding' yna. Mae'n rhaid i ni gael sicrwydd bwyd ac mae rhaid i ni gael sicrwydd bioamrywiaeth - mae'n rhaid i'r ddau redeg ochr yn ochr.

"'Dwi'n gobeithio bydd y prosiect yn llwyddiant a bydd eraill yn dod yma i ddysgu cyn gadael a chreu eu swigod eu hunain ar eu tir ar gyfer bywyd gwyllt.

"A phan bydd gyda ni lot o'r swigod bach yna... bydd natur wedi'i warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Pynciau Cysylltiedig