Canfod corff dyn ar draeth ym Mro Morgannwg

Traeth Southerndown Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i draeth yn ardal Southerndown ddydd Gwener

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi i gorff dyn gael ei ganfod ar draeth ym Mro Morgannwg.

Cafodd swyddogion eu galw i draeth Southerndown ddydd Gwener, 5 Gorffennaf wedi i'r corff gael ei ganfod.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn trin y farwolaeth fel un anesboniadwy, ond nid un amheus.

Ychwanegodd y llu eu bod yn gweithio i adnabod y corff yn ffurfiol, ond maen nhw wedi rhoi gwybod i deulu dyn 40 oed o Gaerdydd am y darganfyddiad.

Aeth Antonio Collado Vergara, sy'n wreiddiol o Sbaen, ar goll yn yr ardal ar 26 Mehefin.

Pynciau Cysylltiedig