Draw yn yr India

Rydym yn tueddu meddwl am fwrdeistrefi pwdr fel pethau wnaeth ddiflannu gyda'r Great Reform Act yn 1832 a do, fe gafwyd gwared ar yr esiamplau gwaethaf, llefydd fel Old Saurum a Gatton, ill dau â saith etholwr yn unig. Ond serch y ddeddf, fe oroesodd nifer o etholaethau rhyfeddol o fach tan y ganrif ddiwethaf.

Fe barodd etholaeth bwrdeistref Maldwyn, er enghraifft tan 1918 er mai dim ond rhyw dair mil o etholwyr oedd wedi eu cofrestru yno.

Un o'r dynion wnaeth gynrychioli'r sedd oedd gŵr o'r enw J.D Rees, cymeriad braidd yn rhyfedd o berspectif ein dyddiau ni. Roedd John Rees yn Gymro Cymraeg, yn anghydffurfiwr ac yn llwyrymwrthodwr. Yn ei araith gyntaf yn y Tŷ yn 1906 addawodd y byddai'n llais dros "the Welsh, Free Church, Liberal and larger half thereof which had for many years been inarticulate and unrepresented".

Rwy'n gobeithio na wnaeth yr etholwyr hynny ddal eu hanadl. Siaradodd J.D Rees gannoedd weithiau yn ystod ei yrfa seneddol ond prin oedd ei gyfeiriadau at Maldwyn neu hyd yn oed at Gymru. Roedd yr ymerodraeth Brydeinig ac, yn fwyaf arbennig, India yn dipyn o obsesiwn i'r aelod seneddol ac roedd e'n wybodus am y wlad hefyd ar ôl degawdau yn gweithio i wasanaeth sifil y Raj Brydeinig.

Does 'na fawr o gof am J.D Rees yng Nghymru ond ar yr is-gyfandir mae ei lyfr "Real India" yn cael ei ystyried yn ffynhonnell hanesyddol o bwys. Mae'n enwog, neu efallai'n ddrwg enwog, am gyfleu meddylfryd y dosbarth llywodraethol Prydeinig a'i agwedd tuag at y miliynau yr oeddynt yn llywodraethu drostynt.

Mae darllen ei sylwadau heddiw yn dipyn o ysgytwad. Dyma ambell i berl i chi.

"It is notorious that the people cry out for adjudication by British magistrates wherever possible and consider them more trustworthy and impartial than their fellow countryman."

"Among the punishments authorised is whipping... this short and sudden punishment is by no means unpopular."

"As to the practise of infant marriage, the evils of it have been greatly exaggerated."

Ac yn y blaen, ac yn y blaen. Mae'r llyfr wedi ei ddigideiddio ac ar gael i ddarllen yn fan hyn.

Nawr, doedd J.D Rees ddim yn ddyn maleisus na thwp. Trafferthodd i ddysgu hanner dwsin o ieithoedd brodorol India ac mae'n amlwg ei fod yn argyhoeddedig bod Prydain yn gweithredu er lles trigolion y lle. Roedd yn gibddall i unrhyw dystiolaeth oedd yn awgrymu i'r gwrthwyneb. Mae ambell i hanesydd Prydeinig yn dioddef o'r un syndrom hyd heddiw.

Mae hynny, fel pob dim arall y dyddiau hyn, yn dod a ni at Bregsit.

Roedd dyn yn gallu synhwyro bod ysbryd J.D Rees yn llechu yng nghysgodion siambr Tŷ'r Cyffredin yn ystod ambell i ddadl ddiweddar. Mae'r un sicrwydd yna ynghylch rhagoriaethau Prydain yn lliwio ein gwleidyddiaeth hyd heddiw, ac amharodrwydd rhai i wynebu realiti yn hytrach na mytholeg yr antur ymerodrol yn amlwg.

Mae pwysigrwydd dysgu hanes Cymru i'n plant yn bwnc sy'n codi'n aml yn y Cynulliad. Ga'i awgrymu bod dysgu hanes go iawn yr Ymerodraeth Brydeinig yr un mor bwysig?