Cymuned yn cofio'r eisteddfod gyntaf ar ôl y Rhyfel Mawr

Ysgol Caer Drewyn

Mae un o drefi'r gogledd wedi bod yn cofio eisteddfod hanesyddol a gynhaliwyd yno ganrif yn ôl.

Eisteddfod Genedlaethol Corwen 1919 oedd y gyntaf i gael ei chynnal ar ôl y Rhyfel Mawr, ac mae'n cael ei hadnabod fel Eisteddfod Heddwch.

I nodi'r canmlwyddiant bu artistiaid lleol yn gweithio efo'r gymuned i gofio'r ŵyl, gyda gorymdaith liwgar yn uchafbwynt ar y dathlu.

Aeth disgyblion Ysgol Caer Drewyn ati i greu pypedau enfawr o dderwyddon a ffurfio band offerynnau taro ar gyfer yr orymdaith.

Bu grwpiau eraill, yn cynnwys grŵp MIND Dyffryn Clwyd a phlant meithrin, yn creu baneri.

Bu'r plant hefyd yn defnyddio eu dychymyg i ddyfalu beth a ddigwyddodd i Gadair Eisteddfod 1919 gan nad oes unrhyw un yn gwybod lle mae hi hyd heddiw.

Image caption Roedd disgyblion Ysgol Caer Drewyn wedi mynd ati i greu pypedau enfawr o dderwyddon

Roedd cynnal prifwyl 1919 yn anrhydedd arbennig o bwysig i Gorwen.

Caewyd yr A5 drwy'r dref yn ystod wythnos yr ŵyl, a chodwyd pedwar platfform ychwanegol yn yr orsaf drenau i dderbyn yr ymwelwyr.

Un person lleol sydd wedi bod cyflwyno'r hanes i ddisgyblion Ysgol Caer Drewyn yw'r chwedleuwraig Fiona Collins.

"Yn ystod y rhyfel, doedd yr Archdderwydd ddim yn gofyn i'r gynulleidfa 'A oes heddwch?' achos doedd 'na ddim," meddai.

"Ond am y tro cyntaf ers pum mlynedd [yng Nghorwen yn 1919], roedd o'n gofyn y cwestiwn ac roedd pawb yn gallu ateb."

Cysgu'n hwyr

Ychwanegodd fod hanes ymddangosiad Nansi Richards, telynores Maldwyn, yn y brifwyl, wedi diddanu'r disgyblion.

"Roedd hi wedi cysgu'n hwyr [un bore] ac wedi codi gan glywed sŵn yr orymdaith yn mynd heibio Gwesty Owain Glyndŵr. Felly roedd rhaid iddi neidio i fyny, a rhoi côt dros ei choban a mynd i ganu'r delyn yn yr orymdaith."

Mae'n debyg ei bod wedi gwisgo'r dillad hynny drwy'r dydd, a hithau'n ddiwrnod poeth o haf.

Bydd y pypedau a grewyd ar gyfer yr orymdaith i'w gweld ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst ddechrau Awst.

Cafodd prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, i ddathlu'r canmlwyddiant, ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol.

Ni chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1914, ond llwyddwyd i'w chynnal yn 1915 (Bangor), 1916 (Aberystwyth), 1917 (Penbedw) a 1918 (Castell Nedd).

Straeon perthnasol