ACau: 'Dim digon o arian yn cael ei roi i ysgolion Cymru'

addysg

Does yna ddim digon o arian yn mynd i ysgolion Cymru er mwyn darparu lefel yr addysg mae disgyblion yn ei haeddu, yn ôl Aelodau Cynulliad.

Mae adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn galw am adolygiad brys i'r drefn gyllido.

Mae yna alw hefyd am fwy o gysondeb yn yr hyn mae ysgolion yn derbyn ar draws gwahanol siroedd.

Dywedodd yr adroddiad bod ysgolion yn wynebu cyfnod o bryderon ariannol na welwyd ei debyg o'r blaen a byddai'n troi'n argyfwng os yw'n parhau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn blaenoriaethu gwariant ar addysg.

Fe edrychodd y pwyllgor ar faint o arian sy'n mynd mewn i addysg a sut mae'n cael ei rhannu, fel rhan o'r ymchwiliad i gyllido ysgolion.

Dywedodd y dylai adolygiad gael ei gynnal i amcangyfrif y bwlch rhwng yr arian sy'n cael ei wario ar ysgolion ar hyn o bryd a'r hyn sydd ei angen er mwyn darparu'r gofynion.

Mae angen hefyd canfod cost sylfaenol rhedeg ysgol ac addysgu plentyn, yn ôl y pwyllgor.

"Darlun llwm iawn a geir yn y dystiolaeth a gyflwynwyd inni o ran cwantwm cyffredinol y cyllid sydd ar gael ar gyfer addysg," meddai'r pwyllgor.

"Does dim digon o arian ar gael ar hyn o bryd i sicrhau bod ysgolion yn cyflawni popeth sy'n ofynnol, a'u bod yn darparu addysg i'n disgyblion ar y lefel y maent yn ei haeddu."

Trefn 'hynod gymhleth'

Yn 2018-19 roedd £2.6bn ar gael i wario ar ysgolion - £5,675 y disgybl.

Ond roedd gwariant yn amrywio o £5,107 y disgybl ym Mro Morgannwg i £6,456 ym Mhowys.

Mae'r drefn gyllido yn "hynod gymhleth", yn ôl y pwyllgor.

Mae Llywodraeth Cymru'n trosglwyddo arian i gynghorau ar gyfer ysgolion ond y cynghorau sy'n penderfynu faint yn union sy'n cael ei wario ar addysg, a phob un yn dosbarthu arian i ysgolion unigol ar sail fformiwla wahanol.

Gwrthododd y pwyllgor ddadl rhai undebau dros ailwampio fformiwla Llywodraeth Cymru ar gyfer rhannu arian rhwng y cynghorau gan ddweud y byddai'n achosi ansefydlogrwydd ariannol.

Ond dywedodd y byddai modd o bosib i bennu isafswm ar gyfer ysgolion gan ychwanegu cyllid am ffactorau eraill fel tlodi a chyflwr adeiladau.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle mae'r dystiolaeth yn glir - "does dim digon o arian yn mynd i mewn i'r system addysg yng Nghymru a does dim digon ohono'n cyrraedd yr ysgolion".

Dywedodd bod rhaid defnyddio'r cyllid yn fwy effeithiol.

Image caption Lynne Neagle AC ydy cadeirydd y pwyllgor

"Ynghyd â'n pryderon am lefel y cyllid a chymhlethdod y system, mae disgwyl i ysgolion hefyd gyflwyno nifer gynyddol o newidiadau, fel y cwricwlwm newydd, y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd a'r dull gweithredu ysgol gyfan ar iechyd emosiynol a meddyliol," meddai.

"Gyda'r pwysau cynyddol, rydyn ni'n pryderu y gallai ysgolion wynebu mwy a mwy o heriau."

Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru bod llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at "doriadau sylweddol i gyllideb gyffredinol Cymru" ond ei bod wedi buddsoddi £24m i hybu sgiliau athrawon er mwyn codi safonau yn yr ystafell ddosbarth.

Byddai ymateb llawn i'r adroddiad yn dilyn maes o law, dywedodd y llefarydd.

Straeon perthnasol