Cynghrair y Pencampwyr: Y Seintiau Newydd 2-2 Feronikeli

Greg Draper Image copyright Getty
Image caption Fe aeth y Seintiau ar y blaen diolch i gic o'r smotyn gan Greg Draper wedi 48 munud

Er bod y Seintiau Newydd ar y blaen o 2-0 gyda munud yn weddill, fe lwyddodd Feronikeli o Kosovo i frwydro 'nôl i sicrhau gêm gyfartal yn Neuadd y Parc.

Y Cymry aeth ar y blaen wedi 48 munud, diolch i gic o'r smotyn llwyddiannus gan Greg Draper

Fe ddyblodd Aeron Edwards y fantais ychydig wedi hynny, gan roi hwb i obeithion y Seintiau o sicrhau mantais gadarn ar gyfer yr ail gymal.

Ond wedi 89 munud fe beniodd Mevlan Zeka i gornel y rhwyd, cyn i Simon Spender ildio cic o'r smotyn dau funud yn ddiweddarach.

Fe darodd Astrit Falzliu yn gywir heibio'r golwr gan unioni'r sgôr.

Bydd yr ail gymal yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chwarae yn Kosovo nos Fawrth nesaf.

Pynciau Cysylltiedig