Mam i dri o blant wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

Laura Davies Image copyright Laura Davies
Image caption Roedd Laura Davies yn feiciwr modur profiadol

Mae menyw wedi marw ar ôl disgyn oddi ar ei beic modur ar drac rasio dros y penwythnos.

Bu farw Laura Davies, 39, ar ôl cael anafiadau difrifol i'w phen mewn gwrthdrawiad yn Pembrey Circuit, Sir Gâr am tua 16:40 ddydd Sul.

Cafodd Ms Davies, sy'n fam i dri o blant, ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ond bu farw yn ddiweddarach.

Dywedodd Phil Bevan Trackdays, y cwmni oedd yn gyfrifol am drefnu'r digwyddiad, nad oedd unrhyw un arall yn rhan o'r digwyddiad.

Image copyright Alan Hughes/Geograph
Image caption Dywedodd perchnogion y trac rasio eu bod nhw'n "cydymdeimlo'n arw" gyda theulu a ffrindiau Ms Davies

Mewn datganiad, nododd y cwmni ei bod hi wedi disgyn oddi ar ei beic wrth fynd o gwmpas un o gorneli'r trac.

Mae bron i £8,000 eisoes wedi cael ei gasglu ar dudalen codi arian ar-lein yn ei henw.

Bydd criw o feicwyr modur yn cwrdd yn Hwlffordd nos Fercher ar gyfer digwyddiad arbennig i gofio am Ms Davies.

Pynciau Cysylltiedig