Cytundeb newydd i Ben Davies gyda Tottenham Hotspur

Ben Davies Image copyright Getty Images
Image caption Fe helpodd Ben Davies ei glwb i gyrraedd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr eleni

Mae amddiffynnwr Cymru, Ben Davies wedi arwyddo cytundeb newydd pum mlynedd gyda Tottenham Hotspur.

Fe wnaeth Davies, 26, ymuno â'r clwb yn Llundain o Abertawe yn haf 2014 ac mae wedi mynd ymlaen i chwarae 168 o weithiau i Spurs.

"Rydw i wedi gweithio'n galed iawn i roi fy hun yn y safle i aros gyda'r clwb yma am y blynyddoedd nesaf ac rydw i ar ben fy nigon i fod yma," meddai.

Mae disgwyl y bydd y cefnwr chwith, sydd wedi ennill 46 cap i Gymru, yn colli dechrau' tymor wrth iddo wella o lawdriniaeth.

Pynciau Cysylltiedig