Arestio dau ar amheuaeth o lofruddio mewn clwb rygbi

Clwb Rygbi Tredegar Newydd Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yng Nghlwb Rygbi Tredegar Newydd nos Sadwrn

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth dyn 40 oed mewn clwb rygbi yn Sir Caerffili.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi eu galw i ddigwyddiad yng Nghlwb Rygbi Tredegar Newydd toc cyn hanner nos, nos Sadwrn.

Cafodd dyn 40 oed ei ddarganfod yn anymwybodol yn yr adeilad, ond bu farw'n ddiweddarach.

Dywedodd yr heddlu bod dau ddyn 41 a 61 oed o ardal Caerffili wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a'u bod yn parhau yn y ddalfa.

Mae Heddlu Gwent yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â'r llu trwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig