Help i ddinasyddion yr UE aros yng Nghymru wedi Brexit

Dinasyddion UE Image copyright Getty Images
Image caption Mae tua 80,000 o bobl o wledydd yr UE yn byw, gweithio neu astudio yng Nghymru

Bydd dinasyddion o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru yn cael cymorth i aros yma yn dilyn Brexit.

Mae'n rhaid i ddinasyddion o'r UE, a rhai gwledydd Ewropeaidd eraill, wneud cais i gael aros yng Nghymru ar ôl i Brydain adael yr undeb.

Mae tua 80,000 o bobl o wledydd yr UE yn byw, gweithio neu astudio yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi creu pecyn i helpu'r rhai sy'n dymuno aros yma ar ôl Brexit.

Mae'r pecyn yn cynnwys cyngor ar fewnfudo, a chefnogaeth ymarferol i helpu gyda cheisiadau i aros yma.

Bydd rhagor o ganolfannau'n cael eu sefydlu lle bydd modd i bobl sganio a chofrestru eu pasborts neu ddogfennau adnabod eraill.

Ar hyn o bryd dim ond ym Mhen-y-Bont-ar-Ogwr a Chaerffili y gellir gwneud hynny.

Image caption Dywedodd y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles bod angen tynnu sylw at hawliau pobl

Dywedodd y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles bod miloedd o ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru yn cyfoethogi cymunedau ac yn cyfrannu mewn sawl ffordd i'r economi a gwasanaethau cyhoeddus.

"Rwy' am ddweud yn glir - rydyn ni'n gwerthfawrogi eich cyfraniad enfawr i'n cymdeithas," meddai.

"Ond mae nifer o ddinasyddion yr UE yn wynebu dyfodol ansicr.

"Bydd cyngor a chymorth penodol sy'n goresgyn rhwystrau rhag cyfathrebu ac sydd wedi'i dargedu yn union lle mae ei angen yn helpu pobl i ddeall eu hawliau a gwneud penderfyniadau doeth dros y misoedd nesaf.

"Os bydd dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn gadael y Deyrnas Unedig, gallai'r effaith yma yng Nghymru, yn ein cymuned a'n gweithleoedd, fod yn ddramatig.

"Rhaid i ni godi ymwybyddiaeth am hawliau dinasyddion er mwyn eu helpu i aros yma ac i ffynnu."

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw Mehefin 2021, ond pe bai'r DU yn gadael heb gytundeb - o bosib ar Hydref 31 - bydd y dyddiad cau yn symud i Ragfyr 2020.

Mae dinasyddion y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein hefyd yn gorfod gwneud cais i aros yng Nghymru.

Straeon perthnasol