Y Cymro sy'n arwain prosiect Ewropeaidd i anfon roced i'r gofod

geraint Image copyright Picasa
Image caption Yr Athro Geraint Jones sy'n arwain prosiect arloesol yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd

Cymro o Ynys Môn sy'n arwain prosiect newydd yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) i yrru roced i'r gofod er mwyn archwilio comed.

Dyma'r ail waith i'r asiantaeth anfon roced i archwilio comed cyn iddi gyrraedd yr haul.

Yr Athro Geraint Jones yw Pennaeth Gwyddoniaeth y Planedau yn Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard yng Ngholeg Prifysgol Llundain.

Roedd yn esbonio sut digwyddodd y prosiect sy'n anelu at gyrraedd y gofod yn 2028 ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru.

"Bob rhyw ddwy neu dair blynedd mae'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd yn gofyn i wyddonwyr 'be fysa chi'n licio'i wneud nesaf?' fel prosiect i yrru rhywbeth i'r gofod", esbonia'r Athro Jones.

"Roedd 'na grŵp ohonan ni, rhyw 120 o bob gwlad yn Ewrop, Japan a'r Unol Daleithiau, yn gyrru dogfen i mewn mis Hydref diwethaf yn cynnig bod ESA (yr asiantaeth) yn gyrru llong ofod i fyny a disgwyl yn y gofod am gomed i ddod i mewn at yr haul am y tro cyntaf, a gyrru'r lloeren yna at y gomed.

"Felly, roedd yna 23 o gynigion tebyg, ac ar ddechrau mis Rhagfyr cafwyd y newyddion da ein bod ni yn y chwech olaf, a phythefnos yn ôl, ar ôl cael cyfweliad gan ESA yn yr Iseldiroedd, gafon ni'r newyddion ofnadwy o bleserus ein bod ni wedi cael ein dewis.

Image copyright Thomas Lohnes
Image caption Pencadlys ESA/ESOC (European Space Operations Centre) yn Darmstadt, Yr Almaen, lle bydd y lansiad yn cael ei gydlynu

"Mi fydd ESA yn gwario €150m ar adeiladu'r lloeren, ei gyrru hi fyny i'r gofod, ac mae'r gwledydd sy'n aelodau o'r asiantaeth, fel ein gwlad ni, yn adeiladu offerynnau sy'n mynd ar y lloeren yna.

"Mae'n brosiect cyffrous iawn a dwi'n freintiedig iawn yn cael rhedeg y prosiect."

O Fôn i NASA

Cafodd yr Athro Jones ei fagu ar fferm ger Traeth Coch, ym Môn, ac mae'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun David Hughes, Porthaethwy.

Enillodd radd mewn Seryddiaeth a doethuriaeth o Goleg Prifysgol Llundain (UCL).

Mae wedi gweithio yng Ngholeg Imperial Llundain, un o labordai NASA, ac i adran ymchwil cysawd yr haul i Sefydliad Max Planck cyn mynd nôl i Labordy Mullard ond dyma'r prosiect mwyaf iddo ei arwain yn ei yrfa, meddai.

"Mae'n fraint mawr bod ni wedi ein dewis y tro 'ma, bod ganddyn nhw ffydd yn ein gallu ni i roi'r prosiect yma efo'i gilydd a bydd yna wyddoniaeth ffantastig yn dod allan ohono fo yn y diwedd.

"Dwi 'di cael y fraint o fod yn rhan fach iawn o brosiectau eraill fel Cassini aeth i'r blaned Sadwrn, ond dyma'r prosiect mwyaf imi fod yn arwain."

Image copyright SPL
Image caption Darlun o gomed yn mynd tuag at yr haul

"Rhan o'r prosiect yma ydy gwneud yn siŵr bod y cyhoedd yn deall bob dim da ni'n gwneud a thrïo cal pawb i ddeall pam bod ni'n gwneud hyn a bod o mor gyffrous."

Help gan 'Enfys'

Bydd gwledydd Ewrop yn cydweithio ar y prosiect ac yn rhannu'r hyn maen nhw'n ei ddysgu am y gofod a Geraint fydd yn cydlynu'r holl wledydd a'r arbenigedd.

Mae hefyd yn cael cyfle i wneud yn siŵr bod mymryn lleiaf o Gymraeg yn rhan o'r fenter sy'n defnyddio naw 'offeryn' o wahanol wledydd - Japan, America, Sweden, Y Swistr, Ffrainc a'r Almaen.

"Da ni'n arwain un offeryn yn UCL hefyd, sef camera fydd yn gwylio yr awyr i gyd o gwmpas y lloeren wrth iddi fynd heibio'r comet.

"Felly enw'r offeryn ydy Entire Visible Sky, a dwi di bychanu'r gair, gan bod o'n tynnu lluniau lliw, i Enfys.

"Da ni 'di dysgu llawer iawn am gomedau drwy fynd at rai sydd wedi bod rownd yr haul nifer o weithiau, fel Comed Halley yn yr 80au.

Image copyright Impressions
Image caption Comed Halley yn mynd dros Uluru yn Awstralia, 1986.

"Yn fwy diweddar mi roedd y prosiect Rosetta yn teithio at gomed ac aros efo hi am rhyw dair mlynedd. Ond mi roedd y comedau yna wedi bod o gwmpas yr haul nifer o weithiau.

"Bob tro maen nhw'n cael eu cynhesu mae'r rhew sydd ynddyn nhw'n tyfu, mae'r llwch sydd ynddyn nhw'n cael ei daflu i fyny a disgyn nol ar wyneb y cnewyllyn, felly does yna ddim posib gweld yn union be sydd yn y cnewyllyn ei hun.

Dysgu sut gafodd y planedau eu creu

"Wrth ddysgu am gomedau 'da ni'n dysgu mwy am sut oedd y sefyllfa pan grëwyd y planedau," meddai'r Athro Jones gan egluro mai darnau sydd ar ôl wedi i'r planedau gael eu creu biliynau o flynyddoedd yn ôl ydyn nhw.

Felly'r nod yw i loeren y prosiect allu cyrraedd comed cyn iddi fynd i mewn i'r haul.

Mae hynny'n anodd esboniodd yr Athro Jones gan fod rhaid gwybod yn union lle fydd y gomed, ond mae gwelliannau'n digwydd o hyd mewn telesgopau ac offer newydd fydd yn eu galluogi i ddarganfod hynny.

"Bydd ein lloeren fach ni yn disgwyl i'r gomed yma gael ei darganfod, ac unwaith mae wedi cael ei darganfod bydd hi'n gadael y gofod ger y ddaear ac yn teithio i fynd heibio'r gomed ar frys a thynnu nifer o luniau a mesuriadau arall wrth fynd heibio," meddai.

Dechreuodd y trefniadau i ddylunio'r lloeren yn syth wedi i'r Athro Jones ddarganfod fod ei ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus ond bydd rhaid aros rhyw naw mlynedd cyn lansio'r lloeren newydd.

Felly gwyliwch y gofod am fwy o newyddion!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig