Cyhuddo cyngor o 'fygwth' cynghorwyr dros gyfarfod iaith

tai Image copyright Getty Images

Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o "fygwth" cynghorwyr drwy ddweud wrthyn nhw am beidio â mynychu araith yn trafod cynllun datblygu'r sir.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith fe allai canllawiau newydd olygu bod llai o geisiadau cynllunio yn gorfod mynd drwy asesiad llawn yn y dyfodol i'r effaith ar yr iaith Gymraeg.

Cafodd cynghorwyr sir wahoddiad i sgwrs gan fargyfreithiwr yn trafod y mater - ond mae'r ymgyrchwyr nawr yn dweud bod yr awdurdod lleol wedi dweud wrthynt am beidio mynd.

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn "gwbl hyderus" yn eu cyngor cyfreithiol eu hunain ac y dylai unrhyw "gyngor ac arweiniad cyfreithiol" i gynghorwyr ddod ganddyn nhw.

'Ymddygiad annemocrataidd'

Fe ddywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod wedi anfon gwahoddiad at gynghorwyr rai wythnosau yn ôl i sgwrs yr wythnos hon gyda Gwion Lewis, bargyfreithiwr sy'n arbenigo ym maes cynllunio.

Mae Mr Lewis wedi rhybuddio yn y gorffennol y gallai'r cyngor fod yn agored i heriau cyfreithiol os ydyn nhw'n cymeradwyo canllawiau cynllunio arfaethedig, gan ddweud eu bod yn groes i ddeddfwriaeth Cynulliad.

Yn ôl yr ymgyrchwyr iaith gallai'r canllawiau olygu mai "canran fach iawn" o geisiadau cynllunio fyddai'n gorfod cael asesiad effaith iaith llawn.

Ond ar ôl anfon y gwahoddiadau, maen nhw'n dweud bod cynghorwyr wedi derbyn neges gan bennaeth gwasanaethau cyfreithiol y cyngor, yn rhybuddio nad "lle Mr Gwion Lewis na Chymdeithas yr Iaith yw darparu arweiniad cyfreithiol i Gyngor Gwynedd na'i aelodau".

Roedd y neges yn mynd ymlaen i ddweud bod "hyn yn creu sefyllfa o wrthdrawiad buddiannau a risgiau gan gymryd mai'r bwriad yw ceisio tanseilio barn gyfreithiol y Cyngor, barn mae'n rhaid i chi ystyried wrth weithredu eich swyddogaethau".

Image copyright Google
Image caption Roedd Cyngor Gwynedd yn arfer mynnu asesiad effaith iaith llawn ar gyfer pob cais i adeiladu pump neu'n fwy o dai

Mynnodd Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith ei fod yn ymgais gan y cyngor i "godi ofn ar gynghorwyr" a "chau lawr trafodaeth gyhoeddus ar faterion polisi sy'n bwysig iawn i'r Gymraeg".

"I gyd rydyn ni'n ceisio ei wneud yw gwella polisi'r cyngor pan ddaw hi at ystyriaeth y Gymraeg o fewn y system gynllunio," meddai.

"Mae darparu gwybodaeth yn rhan bwysig o hynny. Mae'n iach bod trin a thrafod a gwahaniaeth farn - dyna yw craidd ddemocratiaeth. Dydyn ni ddim yn mynd â'r cyngor i'r llys, a dydyn ni ddim eisiau gwneud hynny."

Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim yn deall pam nad yw'r cyngor eisiau trafodaeth agored: mae'n ymddygiad annemocrataidd."

'Cyfreithiol gadarn'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn "gwbl hyderus" fod y Cynllun Datblygu Lleol "yn gyfreithiol gadarn".

"Mae gan Swyddog Monitro pob awdurdod lleol rôl statudol i sicrhau fod awdurdod lleol yn gweithredu mewn ffordd gyfreithlon," meddai'r llefarydd.

"Fel rhan o'r dyletswyddau hynny mae'n arferol darparu cyngor ac arweiniad cyfreithiol i aelodau etholedig y Cyngor yn ôl yr angen.

"Mae hefyd yn ofyn yng Nghymru fod aelodau awdurdodau lleol yn ystyried cyngor swyddogion ac yn benodol Swyddog Monitro wrth weithredu eu swyddogaethau.

"Ni fyddai'n briodol gwneud sylw ar fanylion unrhyw gyngor cyfreithiol penodol sydd yn cael ei ddarparu i gynghorwyr."

Straeon perthnasol