Teyrnged i ddyn wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir y Fflint

Shaun Buckley Image copyright Family photo

Mae teulu dyn gafodd ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint ddydd Sadwrn wedi teulu teyrnged iddo.

Bu farw Shaun Buckley, 41, ar ôl i'w gerbyd daro yn erbyn Nissan Qashqai oedd yn tynnu carafán ar yr A548 ger Treffynnon am tua 10:05.

Roedd Mr Buckley, o Brestatyn yn Sir Ddinbych, yn gyrru tryc casglu cerbydau ar y pryd.

Dywedodd ei deulu y byddai'n "byw o hyd yng nghalonnau ac atgofion pawb oedd yn ei nabod a'i garu".

Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.