Alun Cairns yn amddiffyn polisi Boris Johnson ar arian cyfatebol
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ymgeiswyr yn addo arian cyfatebol

7 Gorffennaf 2019 Diweddarwyd 11:35 BST

Mae'r ddau ymgeisydd yn y ras i arwain y Blaid Geidwadol wedi addo rhoi arian i Gymru i gymryd lle'r arian Ewropeaidd fydd yn mynd wedi Brexit.

Erbyn 2020 fe fyddai Cymru wedi derbyn cyfanswm o dros £5bn o arian adeileddol gan yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae Boris Johnson wedi dweud, er y byddai'n rhoi arian cyfatebol i'r hyn yr oedd yn dod gan yr Undeb Ewropeaidd, fe awgrymodd y byddai gan ei lywodraeth rhywfaint o ddylanwad ar sut y byddai'n cael ei wario.

Dywedodd Jeremy Hunt wrth y cyfarfod o aelodau'r blaid yng Nghanolfan yr Holl Gynghreiriau yng Nghaerdydd y byddai e, fel Prif Weinidog, yn sicrhau na fyddai Cymru ar eu colled.

Wedi'r cyfarfod bu'n gohebydd Daniel Davies yn siarad gydag un o gefnogwyr Boris Johnson, Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns AS