Dyn wedi marw ar ôl disgyn o do ffatri ym Mhen-y-bont

Ystad Ddiwydiannol Pen-y-Bont ar Ohwr Image copyright Google
Image caption Mae Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-Bont ar Ogwr wedi ei leoli i'r dwyrain o'r dref, gerllaw pentref Llangrallo

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i farwolaeth dyn 34 oed yn dilyn digwyddiad ar Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 12:32 brynhawn dydd Gwener 5 Gorffennaf yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi syrthio o'r to.

Bu farw'r dyn, o ardal Maesteg, o'i anafiadau.

Mae ymchwiliad nawr ar y gweill gan Heddlu'r De a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch er mwyn ceisio darganfod beth ddigwyddodd.