'Pryder' am ddyfodol brandiau bwyd a diod Cymreig

Halen, gwin, cig oen, bara lawr Image copyright Halen Mon/Getty Images/BBC

Mae gan gynhyrchwyr bwyd o Gymru "bryderon gwirioneddol" am ddyfodol eu brandiau pe bai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb.

Ar hyn o bryd mae rhai o fwydydd a diodydd mwyaf adnabyddus Cymru - megis cig oen Cymreig, bara lawr a chaws Caerffili - yn cael eu hamddiffyn gan Ddynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) yr UE.

Ond mae Llywodraeth y DU wedi rhybuddio nad oes unrhyw sicrwydd y bydd statws tebyg yn parhau ar ôl Brexit.

Dywedodd un corff lefi o Gymru y gallai 20 mlynedd o waith "gael ei golli yn sgil gadael heb gytundeb".

Mae statws PGI yn gallu bod yn hollbwysig wrth geisio sefydlu brand cryf, gyda Champagne, Parma ham a Cornish pasties yn rai o'r enghreifftiau enwocaf.

Mae'r cynllun yn diogelu cwmnïau rhag eraill sy'n ceisio eu dynwared, yn hybu eu statws a'u proffil ac yn aml yn eu galluogi i godi prisiau.

Image copyright HCC
Image caption Heb amddiffyniad yr UE mae rhai cwmnïau yn poeni y bydd modd i eraill ddynwared eu cynnyrch

Dywedodd un o gyd-sylfaenwyr cwmni Halen Môn, Alison Lea-Wilson, bod amddiffyniad yr UE wedi cael "dylanwad mawr" ar eu hallforion.

"Mae'n cael ei adnabod fel arwydd o ansawdd o fewn yr UE, yn enwedig yn ein marchnadoedd yn yr Eidal a Sbaen, ond hefyd mewn llefydd fel Siapan a'r Unol Dalaethiau," meddai.

"Rydyn ni'n poeni am yr hyn fydd yn digwydd ar ôl Brexit gan fod neb i weld yn gwybod be yn union fydd yn digwydd nesaf.

"Mae ein brand ni wedi cael ei ddynwared o'r blaen, ac fel busnes bach, byddai hi'n anodd iawn i ni rwystro hynny, yn enwedig mewn gwledydd tramor."

'Tanseilio buddsoddiad'

Dangosodd adroddiad Llywodraeth Cymru yn 2015 bod allforion cig oen Cymreig wedi cynyddu'n "sylweddol" ar ôl derbyn statws PGI.

Yn ôl gwaith ymchwil gafodd ei wneud ar gyfer yr UE, mae cynnyrch dynodedig yn cael eu gwerthu am bris 2.23 gwaith yn uwch o'i gymharu â chynnyrch tebyg sydd heb dderbyn statws o'r fath.

Cyfanswm gwerthiant cynnyrch PGI yn 2010 oedd €54.3bn (£48.7bn).

Dywedodd Dr Owen Roberts o Hybu Cig Cymru: "Mae'r statws yma yn ganolog i'r hyn 'dan ni wedi bod yn ei wneud ar gyfer cig oen a chig eidion Cymreig dros yr 20 mlynedd diwethaf.

"Mae'n golygu bod ein cynnyrch yn cael eu hadnabod o amgylch y byd... rydyn ni wedi seilio ein strategaeth marchnata ar y statws hwn er mwyn dangos safon ac olrheiniadwyedd, ac mae perygl nawr y gallai'r holl fuddsoddiad gael ei danseilio."

Cynnyrch o Gymru sydd yn cael ei amddiffyn:

  • Cig oen Cymreig
  • Cig eidion Cymreig
  • Halen Môn
  • Ham Caerfyrddin
  • Seidr Cymreig
  • Caws Caerffili
  • Eirin Dinbych
  • Gwin Cymreig
  • Bara lawr Cymreig
  • Cig oen mynyddoedd Cambria
  • Cregyn gleision Conwy
  • Gellygwin Cymreig
  • Cig oen morfa heli Gŵyr
  • Porc Cymreig traddodiadol
  • Tatws 'earlies' Sir Benfro
  • Eog o orllewin Cymru
  • Sewin o orllewin Cymru

Dywedodd Puffin Produce Ltd bod sicrhau statws PGI ar gyfer tatws 'earlies' Sir Benfro wedi arwain at "fuddiannau economaidd sylweddol ar hyd y wlad".

Mae'r llywodraeth wedi dweud eu bod nhw'n disgwyl i'r UE barhau i amddiffyn y cynnyrch sydd eisiau wedi derbyn statws o'r fath.

Ond maen nhw wedi rhybuddio cwmnïau am y posibilrwydd o orfod ailgyflwyno cais os bydd y DU yn gadael heb gytundeb.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn ystyried creu cynllun tebyg eu hunain yn dilyn Brexit.

Mae rhai eisoes wedi cwestiynu gwerth creu cynllun newydd oherwydd y gost o orfod creu pacedi gwahanol ar gyfer marchnadoedd y DU a'r UE.

'Ymateb gwell i'r ddraig goch'

Un pryder sydd gan gynhyrchwyr Cymreig yw y bydd eu cynnyrch yn dod o dan y faner Brydeinig.

"Mae'n gwaith ymchwil ni yn dangos bod y farchnad yn ymateb yn lawer gwell i faner Cymru nac ydyn nhw i Jac yr Undeb," meddai Dr Roberts.

"Mae defnyddio logo'r DU yn mynd yn groes i'r amcan o gydnabod cynnyrch fel rhywbeth o Gymru, neu'r Alban, neu ranbarth o Loegr."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cydweithio a chynhyrchwyr wrth ystyried y posibilrwydd o gynllun newydd unwaith mae Brexit wedi digwydd.

"Mae yno eisoes gynsail bod gwledydd tu allan i'r UE yn gallu derbyn statws PGI, fel coffi o Golombia, sy'n cael ei amddiffyn o fewn marchnad yr UE.

"Pe bai'r DU yn gadael heb gytundeb, nid oes rheswm pam na all cynnyrch Cymreig ddal 'mlaen i'w statws PGI a bod dal modd i gwmnïau wneud ceisiadau i amddiffyn cynnyrch newydd."

Straeon perthnasol