Jôcs am y Gymraeg 'fel Islamoffobia a gwrth-Semitiaeth'
Aled ap Dafydd
Prif Ohebydd Newyddion 9
- Cyhoeddwyd
Dylai ymosodiadau ar y Gymraeg gael eu cymharu ag Islamoffobia a gwrth-Semitiaeth, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Roedd Aled Roberts yn ymateb i drydariad y comedïwr Omid Djalili, wnaeth ennyn cryn ymateb ar Twitter.
Fe bostiodd y gŵr 53 oed o Lundain lun o arwydd ffordd i Nantgaredig a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Wrth ymyl y llun, ysgrifennodd: "Mae 'na bethau gwaeth na dod o Gymru, bod yn ddyslecsig a chael atal dweud ofnadwy. Ond dim llawer."
There are worse things than being Welsh, dyslexic & having a terrible stutter. But not many pic.twitter.com/jEEBJTeyc1
— Omid Djalili (@omid9) June 30, 2019
Wrth siarad â rhaglen Newyddion9, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg ei fod wedi gweld cynnydd mewn teimladau gwrth-Gymraeg.
"Os 'dyn ni'n siarad am Islamoffobia, os ydym yn siarad am wrth-Semitiaeth, mae'r un math o fater y mae'n rhaid i gymdeithas ddelio ag o," meddai Mr Roberts.
"Fel siaradwr Cymraeg doeddwn i ddim yn ei weld [y jôc] yn arbennig o ddoniol.
"Hyd yn oed pan dynnodd rhywun sylw ato, nes i ddim ei weld o'n ddoniol."
Pan ofynnwyd a ddylai pobl a oedd yn feirniadol o'r trydariad fynd i weld Mr Djalili yn perfformio, dywedodd Mr Roberts: "Yn amlwg, nid yw wedi ymddiheuro felly dwi yn un yn sicr ddim yn mynd i unrhyw sioe - ond gallai feddwl nad ydw i'n golled fawr iddo fo be' bynnag."