Y Barri a Met Caerdydd allan o Gynghrair Europa

Tlws Cynghrair Europa
Image caption Dyma oedd y tro cyntaf i Met Caerdydd gymryd rhan mewn un o gystadlaethau Ewrop

Er gwaethaf buddugoliaeth gofiadwy o 2-1 i Met Caerdydd yn Stadiwm Lecwydd, mae'r myfyrwyr allan o Gynghrair Europa oherwydd y rheol goliau oddi cartref.

Ar ôl colli o 1-0 oddi cartref i FC Progrès Niederkorn o Lwcsembwrg yn y cymal cyntaf, roedd y tîm cartref yn wynebu tasg anodd iawn.

Ond fe aeth Met Caerdydd ar y blaen yn y munud cyntaf wrth i Jordan Lam benio croesiad Elliot Evans i gefn y rhwyd o chwe llath.

Fe ddyblwyd y fantais ar ôl 67 munud diolch i gic o'r smotyn gan Dylan Rees.

Pum munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Mayron De Almeida y gôl oddi cartref holl bwysig yn dilyn chwarae taclus gan ymosodwyr yr ymwelwyr.

Golygai'r gôl honno mai 2-2 oedd y sgôr terfynol dros y ddau gymal a bod Met Caerdydd yn mynd allan o'r gystadleuaeth yn y rownd gyn-ragbrofol.

Cliftonville 4-0 Y Barri

Roedd hi'n noson siomedig i'r Barri wrth iddyn nhw golli o 4-0 yn erbyn Cliftonville o Ogledd Iwerddon ym Melffast.

Yn dilyn gem ddi-sgôr yn y cymal cyntaf roedd y gôl gyntaf wastad yn mynd i fod yn hollbwysig.

Y tîm cartref aeth ar y blaen wedi 25 munud diolch i beniad o gic gornel gan Conor McMenamin.

Roedd Cliftonville yn llwyr reoli'r chwarae yn yr hanner cyntaf, a daeth yr ail gôl drwy ergyd bwerus gan Joe Gormley o ganol y cwrt cosbi munud cyn yr egwyl.

Llwyddodd amddiffyn Y Barri i rwystro'r tîm cartref am fwyafrif yr ail hanner ond fe ychwanegodd Conor McDermott y drydedd wedi 82 munud, cyn i gôl Rory Donnelly goroni'r fuddugoliaeth dau funud yn ddiweddarach.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol