'Mae Dad yn siomedig na wnaeth y Tywysog hybu'r iaith'

Tedi Millward a Llio Image copyright Llio Millward
Image caption "Mae'n fraint nawr i fi edrych ar ei ôl e," meddai Llio Millward am ei thad Tedi Millward oedd yn diwtor iaith i'r Tywysog Charles yn 1969

Mae'r actores a'r gantores Llio Millward yn gwybod mwy na llawer o bobl am y bennod ryfeddol yn hanes diweddar Cymru pan ddaeth y Tywysog Charles i ddysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ei thad Dr EG Millward - neu 'Tedi' Millward - oedd tiwtor Cymraeg personol y tywysog pan dreuliodd dymor yn y brifysgol cyn ei Arwisgiad yn 1969.

Bellach yn 89 mlwydd oed 'dyw iechyd y cyn ddarlithydd ddim yn ddigon da iddo gael ei gyfweld ond gofynnodd Cymru Fyw i Llio am ei hatgofion o straeon ei thad o'r cyfnod.

Wrth edrych yn ôl, meddai, mae'n siomedig na wnaeth y Tywysog Charles hybu'r iaith ar ôl ei dysgu.

"Doedd gan Dad ddim byd yn bersonol yn ei erbyn - ar lefel personoliaeth roedd yn weddol hoff o Charles," meddai Llio sy'n byw yn Llundain ers 20 mlynedd.

"Dwi 'di clywed dros y blynyddoedd ganddo fe a Mam bod Charles yn ddyn ifanc sensitif, deallus, annwyl ac agored iawn i safbwyntiau a daliadau Dad a wi'n credu oedd e'n cydymdeimlo gyda'r achos.

"Roedd Mam [Silvia Hart] a Dad yn teimlo dros Charles.

"Ers hynny, yr unig beth mae Dad wedi dweud ar record yw ei fod wedi cael ei siomi yn fawr na wnaeth y Tywysog wedyn gymryd y cyfle i wneud unrhyw beth i hybu'r iaith ar lefel boliticaidd neu ar lefel cyhoeddusrwydd.

"Wi'n credu yr holl bwynt, roedd Dad yn teimlo, oedd y gallai Charles gael dylanwad bositif ac wrth gwrs wnaeth e ddim gwneud hynna."

'Cyfle i oleuo agwedd y sefydliad'

Fel un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith, mudiad oedd yn wrthwynebus iawn i'r Arwisgo, ac aelod blaenllaw o Blaid Cymru, roedd rhai yn synnu fod Dr Millward wedi derbyn y rôl fel athro i'r Tywysog Charles.

Wnaeth y peth achosi tensiwn o ran ei ddaliadau?

Image copyright Llio Millward

"Dwi wedi siarad am hyn efo Dad llawer dros y blynyddoedd felly mi alla' i siarad drosto fe yn hawdd, ond mae wedi rhoi rhywfaint o'i safbwynt ei hunan am y cyfnod ac am yr ymweliad yn ei hunangofiant, Taith Rhyw Gymro," meddai Llio.

"Mewn un ystyr mi roedd y sefyllfa yn erbyn ei egwyddorion, ac egwyddorion Mam hefyd.

"Ar y llaw arall doedd e ddim yn anarferol i gael myfyrwyr brenhinol yn y brifysgol. Roedd sawl myfyriwr brenhinol arall wedi bod yn y brifysgol yn Aber, a dwi'n gwybod bod Dad yn teimlo bod hawl gan bawb i astudio, hyd yn oed os ydy e'n dywysog brenhinol.

"Ond hefyd, roedd yn gweld y sefyllfa fel cyfle i oleuo agwedd y sefydliad am achos yr iaith - drwy'r llwyfan yma oedd wedi dod ato fe... roedd e'n gweld hyn fel cyfle i hysbysu'r byd yn gyffredinol am werth yr iaith ac am frwydr yr iaith."

Image copyright Llio Millward
Image caption Tedi Millward yn dysgu'r tywysog yn y labordy iaith oedd yn newydd yn Aberystwyth ar y pryd

Yn ogystal meddai Llio nid Dr Millward oedd yr unig diwtor - roedd yr adran Gymraeg i gyd yn dysgu agweddau gwahanol fel hanes a llenyddiaeth iddo, er mai ei thad oedd y tiwtor personol yn gyfrifol am ddysgu iaith.

"Ond doedd dim dewis gyda fe," meddai Llio.

"Roedd yn rhan o'i swydd. Ac roedd yn teimlo y byddai gwrthod yn dod â chyhoeddusrwydd gwael i Blaid Cymru ac efallai i'r Brifysgol.

"Roedd na ragfarn mawr yn barod tuag at genedlaetholdeb a doedd e ddim eisiau rhoi mwy o reswm i'r wasg i fod yn negyddol tuag at Gymru a chenedlaetholdeb.

"Roedd y sefyllfa yn nuanced a chymhleth."

Yn y cyfnod roedd yna brotestiadau ar un llaw, gan Gymdeithas yr Iaith ac eraill, fod y brifysgol yn Aberystwyth yn derbyn y tywysog fel myfyriwr a phryder ar y llaw arall gan rai yn y llywodraeth fod y Tywysog Charles yn mynd i gael ei ddylanwadu gan genedlaetholwyr.

Image copyright Llio Millward
Image caption Yn y labordy iaith ym mhrifysgol Aberystwyth byddai'r athro'n gallu gwrando ar y disgybl yn ailadrodd ymadroddion

Fe gafodd Dr EG Millward efallai fwy o sylw na'r tiwtoriaid eraill am ei fod yn genedlaetholwr blaenllaw a phobl fel George Thomas, yr Ysgrifennydd Gwladol, yn bryderus y byddai'r tywysog ifanc yn cael ei ddylanwadu ganddo.

"Roedden nhw'n disgrifio fe ar y pryd yn y wasg fel 'dedicated Welsh nationalist' a 'leading light in Plaid Cymru, the Welsh nationalist party'," esbonia Llio.

Ond ydi o'n falch i gael ei adnabod fel y person a ddysgodd Gymraeg i Charles?

"Nac ydi! Dydi e ddim yn falch o gwbl y bydde fe'n cael ei gofio am hyn! Mae e wastad wedi osgoi unrhyw gyhoeddusrwydd a 'dyw e byth wedi ceisio unrhyw sylw am hyn.

"Fel ei ferch, wi'n gwybod y bydde'n llawer gwell gan Dad, a bydde'n llawer gwell gen i, pe bydde fe'n cael ei gofio am ei waith ar ran Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith, ei waith academaidd a'i waith yn gyffredinol dros Gymru a'r iaith. Mae hyn jyst yn rhan fach iawn o yrfa dad."

Ffilmio The Crown

Mae'n rhan sy'n cael ei phortreadu yn y gyfres newydd o The Crown sydd i gael ei ryddhau cyn diwedd 2019.

Bu'r cwmni sy'n cynhyrchu'r gyfres i Netflix yn ffilmio yng Nghaernarfon, Aberystwyth a Chwmaman yn 2018. Bu Llio yn eu helpu gyda gwaith ymchwil ar gyfer pennod yr Arwisgo ac aeth hi a'i thad i weld y set yn Aberystwyth.

Ar ôl cael gwylio rhagflas o'r bennod, mae hi'n blês gyda'r canlyniad.

"Roedden nhw'n bryderus iawn i ddarlunio safbwynt y cyfnod a chymeriad Dad yn gywir ac adrodd y stori mewn modd fyddai'n gwneud tegwch â'r gwirionedd," meddai Llio.

Bu Llio hefyd yn siarad â'r actor sy'n chwarae rhan ei thad cyn y ffilmio a chyfrannu rhai o hen deis ei thad, sy'n cael eu gwisgo ar y sgrîn.

Image copyright Llio Millward
Image caption Bu Dr Tedi Millward yn gwylio'i hun yn cael ei bortreadu yn y gyfres The Crown

Wedi ymddangos ar gyfresi fel Tair Chwaer a Pobol y Cwm mae Llio wedi bod yn gantores a chyfansoddwr yn Llundain ers sawl blwyddyn gan ryddhau ei halbwm ei hun, Heat of the Fire yn 2014.

Mae hefyd wedi hyfforddi a gweithio fel seicotherapydd ond mae'n canolbwyntio ar gyfansoddi ar hyn o bryd.

Mae'n cofio ei magwraeth hi a'i diweddar brawd, yr awdur Andras Millward, yn Aberystwyth fel un academaidd a gwleidyddol oedd yn rhoi pwyslais hefyd ar ddiwyllliant a'r celfyddydau.

Image copyright Llio Millward

Magu ar straeon y cyfnod

Mae Llio'n datgelu i'w thad gael ei wahodd i seremoni'r Arwisgo yng nghastell Caernarfon yn 1969 ond na wnaeth dderbyn.

"Mae wedi cael gwahoddiad i sawl peth felna," meddai.

"Gafodd e wahoddiad i briodas Charles a Diana hefyd - ond aeth e ddim. Dyw e byth wedi gwneud yn fawr o'r cysylltiad o gwbl."

Er nad yw ei thad wedi dewis siarad rhyw lawer yn gyhoeddus am ei gyfnod gyda'r Tywysog Charles fe gafodd Llio a'i brawd glywed digonedd o straeon ar yr aelwyd gartref am y tywysog ifanc a'r amheuaeth fod yr awdurdodau cudd yn cadw golwg arnyn nhw.

"Dwi wedi tyfu fyny gyda'r storïau yma a mae'r pethau yma wedi cael eu trafod lot o fewn y teulu ond oedd Dad ddim eisiau sylw am y peth achos canolbwynt bywyd Dad yw ei waith academaidd, ei waith politicaidd a'i waith diwylliannol dros Gymru a dros yr iaith ac roedd hyn jyst yn bennod bach ar y ffordd.

"Roedd e'n gobeithio bod e'n gyfle i oleuo aelod pwysig o'r sefydliad yn Lloegr am achos yr iaith.

Image copyright Llio Millward

"Fydde Dad wedi bod yn cydymdeimlo'n llwyr gyda'r protestio ond roedd rhaid iddo fe wneud ei benderfyniadau ei hun."

Ond fe wnaeth y Tywysog Charles ddysgu Cymraeg yn 1969 drwy gyfrwng y labordy iaith newydd oedd yn ddatblygiad arloesol mewn dysgu iaith ar y pryd.

Un araith a ddysgodd Dr Millward iddo oedd un enwog yn Eisteddfod yr Urdd pan gododd nifer o aelodau'r Urdd mewn protest.

"Roedd wedi gwneud yn dda ac er y protestio roedd na synnwyr o chware teg iddo fe hefyd yn y babell ar y pryd," meddai Llio.

"'Nath e ddefnyddio'r Gymraeg cwpl o weithie yn y blynyddoedd cynnar ar ôl hynna a chafodd Dad wahoddiad i fynd at Charles i'r palas cwpl o weithie i'w helpu i wneud areithiau Cymraeg eraill.

"Felly roedd Charles am gyfnod byr yn defnyddio'r Gymraeg ond ddim wedi mynd a'r peth ymhellach ac mae hynny wedi bod yn siom bersonol fi'n credu i Dad."

Hefyd o ddiddordeb: