Plasdwreiddio

Hwre! Fi wedi bathu gair newydd!

Plasdwreiddio; (be) i gael eich traflyncu gan ddinas gyfagos.

Maddeuwch i mi am fod ychydig yn blwyfol yn fan hyn ond mae troi i'r dde wrth i chi adael Canolfan y BBC yn Llandaf yn brofiad rhyfedd y dyddiau hyn. Wrth i chi deithio ar hyd Ffordd Llantrisant chi'n gyrru heibio milltir ar ôl milltir o stadau o dai, maestrefi newydd sbon mewn gwirionedd, gydag enwau anghyfarwydd megis Parc Plymouth, Rhiwlas a Chae Sain Ffagan.

Mae rhai o'r enwau yna'n well na'i gilydd!

Croeso i Blasdŵr "dinas gerddi" newydd Caerdydd fydd yn gartref yn y pendraw i oddeutu 25,000 o filoedd o bobol. I roi syniad i chi o faint y lle, oddeutu 14,000 o bobol sy'n byw yn nhref Caerfyrddin a rhiw 10,000 yng Nghaernarfon.

Nawr, mae 'na sawl ffrae wedi bod ynghylch Plasdŵr ac nid yn unig gan drigolion pentrefi Pentyrch a Chreigiau sy'n wynebu cael eu plasdwreiddio yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Mae'r aelod cynulliad, Neil McEvoy wedi codi cwestiynau ddigon teg ynghylch effaith y datblygiad ar draffig yng ngorllewin y ddinas a go brin fod yr atebion wedi lleddfu ofnau ei gefnogwyr. Wedi'r cyfan, dyw addewid o lein Metro rhyw ben, rhyw bryd yn y dyfodol yn gwneud dim byd i leddfu'r tagfeydd sydd eisoes yn broblem yn y rhan honno o'r ddinas.

Ceir dadl arall eto ynghylch a ddylai addysg cyfrwng Saesneg fod ar gael ym Mhlasdŵr gyda Chymdeithas yr Iaith yn dadlau y dylai pob ysgol newydd fod yn ysgol Gymraeg ac ymgyrchwyr eraill yn ofni'r ymateb i gynllun o'r fath.

Yr hyn sy ddim yn cael ei gwestiynu ar y cyfan yw'r angen am y datblygiad. Wedi'r cyfan, mae poblogaeth Caerdydd yn tyfu'n gynt nac unrhyw ddinas arall ym Mhrydain. Rhwng 2015 a 2035 disgwylir cynnydd o 20%, neu 72,000 yn nifer y trigolion, oddeutu traean o'r cynnydd i Gymru gyfan. Mae'n rhaid i'r bobl yna fyw yn rhywle, neu dyna yw'r ddadl.

Ond mae 'na atebion eraill yn bosib. Cymerwch ddwysedd poblogaeth Caerdydd i ddechrau. Mae Caerdydd yn ddinas o 140 o gilomedrau sgwâr ac, ar gyfartaledd, mae 2,500 o bobol yn byw ym mhob un o'r cilometrau hynny. Cymharwch hynny ac Islington lle mae 15,800 yn byw ym mhob cilomedr sgwâr neu ddinasoedd cyffelyb megis Lerpwl (4,395) Bryste (4,186).

Fe fyddai modd achub o leiaf rhai o'r caeau yna trwy godi datblygiadau mwy dwys - ond ceisiwch godi adeiladau uchel yng Nghaerdydd a bydd rhywun yn y Western Mail yn brefu ein bod yn cael ein gorfodi i 'fyw yn y cysgodion'.

Mae'n werth nodi hefyd nad ffrwythlondeb trigolion presennol y brifddinas sy'n esgor ar y cynnydd. Mudo sy'n gyfrifol am 95% o'r twf, mudo o dramor, mudo o Loegr ond hefyd mudo o rannau eraill o Gymru. Hynny yw, fe fyddai llai o angen am Riwlas yng Nghaerdydd pe bai Rhiwlas, Gwynedd yn fwy ffyniannus.

Mae pawb yn gwybod hynny ond mae creu ffyniant y tu hwnt i Gaerdydd yn llawer anoddach na gadael i'r ddinas dyfu. Nid gor-ddweud yw datgan ein bod mewn peryg o greu ein Llundain ein hun gyda rhannau eraill o'r wlad yn byw yn ei chysgod.