Aelodau newydd yn 'ofni' estyniad i broses Brexit

Nathan Gill
Image caption Mae Nathan Gill yn rhagweld Tŷ'r Cyffredin yn rhwystro Brexit heb gytundeb

Mae dau Aelod Seneddol Ewropeaidd (ASE) Plaid Brexit yng Nghymru yn "ofni" y bydd estyniad arall i'r broses Brexit.

Mae'r DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref ond mae Nathan Gill a James Wells yn credu y bydd Tŷ'r Cyffredin yn rhwystro Brexit heb gytundeb.

Dywedodd Mr Wells fod y "rhan fwyaf" o aelodau Plaid Brexit yn credu y bydd etholiad cyffredinol yn yr hydref.

Dywedodd Jill Evans o Blaid Cymru a Jackie Jones o Lafur - y ddau ASE arall yng Nghymru - eu bod yn obeithiol y byddai'r broses yn cael ei gohirio.

Enillodd Plaid Brexit ddwy sedd Gymreig ym mis Mai, gan ddod i'r brig yn 19 o'r 22 ardal cyngor.

Ar ddiwrnod cyntaf y Senedd Ewropeaidd newydd ddydd Mawrth, trodd ASEau Plaid Brexit eu cefnau yn ystod 'Ode To Joy' - anthem yr UE.

"Fe wnaethon ni droi ein cefnau arno oherwydd, a dweud y gwir, nid ydym yn cydnabod y dylai'r Undeb Ewropeaidd, sefydliad, gael ei anthem ei hun a'i faner ei hun," meddai'r ASE Nathan Gill.

Dywedodd cyn-ASE UKIP ei fod yn disgwyl iddo barhau yn ei swydd y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod presennol ar gyfer trafodaethau Brexit "oherwydd ni allaf weld y mecanwaith sy'n golygu bod newid arweinydd y Blaid Geidwadol ac felly'r prif weinidog yn arwain at newid yn San Steffan".

Pan gafodd ei holi a oedd yn falch o glywed y cystadleuwyr ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr - Boris Johnson a Jeremy Hunt - yn codi'r posibilrwydd y byddai'r DU yn gadael yr Undeb heb gytundeb ar 31 Hydref, dywedodd Mr Gill: "Mae'n galonogol i mi ond rwyf dal yn amheus iawn."

Image copyright Matthew Horwood/Getty Images
Image caption Mae Jackie Jones o Lafur am weld refferendwm arall ar aelodaeth o'r UE

Dywedodd James Wells, ASE arall Plaid Brexit yng Nghymru, sydd wedi cael ei ethol i wleidyddiaeth rheng flaen am y tro cyntaf: "Dydw i ddim wir eisiau bod yma ar ôl mis Hydref ond rwy'n ofni mae'n debyg y byddwn ac y byddwn yn cael etholiad cyffredinol lle y bydd Plaid Brexit yn rhedeg ym mhob sedd ar gyfer San Steffan.

"Mae'r rhan fwyaf ohonom yn y blaid yn disgwyl y bydd etholiad cyffredinol yn yr hydref."

Mae ASE Llafur yng Nghymru, Jackie Jones, hefyd wedi'i hethol i'r seneddau Ewropeaidd yn Strasbourg a Brwsel am y tro cyntaf.

"Mae wedi bod yn gyffrous iawn a hefyd yn drwm iawn oherwydd mae'n rhaid i chi sefydlu swyddfa, mynd i Frwsel, mynd i gyfarfodydd grŵp a chwrdd â llawer o bobl newydd," meddai.

'Cyfnod anodd iawn'

Gorffennodd ei phlaid yn drydydd yn yr etholiadau Ewropeaidd mis Mai y tu ôl i Blaid Cymru am y tro cyntaf erioed.

Yn ystod yr ymgyrch, roedd y pedwar ymgeisydd Llafur yng Nghymru yn llwyr gefnogol o refferendwm arall, tra roedd y blaid yng Nghymru ac ar draws y DU yn ei gefnogi fel opsiwn.

Dywedodd Ms Jones: "Pe byddem wedi cael neges gliriach… byddai hynny wedi bod yn ddefnyddiol ond rwy'n deall yn llwyr, ac fe wnaethom ni i gyd, ac rwy'n dal i gytuno bod gennym ni rheiny sydd eisiau gadael a rheiny sydd eisiau aros yng Nghymru a ledled y DU ac mae'n iawn ein bod yn ystyried eu pryderon."

Dywedodd y cyn-ddarlithydd ei bod yn "falch iawn" bod Llafur Cymru bellach wedi newid polisi i gefnogi refferendwm arall a'i bod yn "obeithiol" y byddai Llafur yn San Steffan yn gwneud yr un peth.

Image copyright Getty Images
Image caption Dywedodd Jill Evans (canol) nad oes modd "symud ymlaen" heb ail refferendwm

Mae Plaid Cymru wedi bod yn llwyr gefnogol o refferendwm arall ers i Adam Price ddod yn arweinydd y blaid.

Mewn ateb i'r cwestiwn a fyddai pleidlais arall yn dyfnhau'r rhaniadau mewn cymdeithas, dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans: "Mae angen gwneud llawer o waith i wella'r rhaniadau ond ar gyfer gwneud penderfyniad mor fawr [Brexit heb gytundeb] pan fydd dim sicrwydd am swyddi pobl, am ddyfodol pobl, ni allwn symud ymlaen fel hynny.

"Ni ddylem hyd yn oed ei ystyried hyd oherwydd bydd e mor ddrwg."

"Dydw i ddim yn meddwl y gallwn wneud penderfyniad mor ddychrynllyd sy'n mynd i effeithio ar Gymru am ddegawdau i ddod, a gwn fod pobl wedi cael llond bol ar y dadleuon, a gwn fod pobl wedi cael llond bol ar siarad am Brexit a dim byd arall… ond mae gadael heb gytundeb yn golygu y byddwn yn siarad amdano am 10, 15, 20 mlynedd i ddod.

"Nid diwedd y dadlau fyddai hynny, ond dechrau cyfnod anodd iawn," ychwanegodd.

Straeon perthnasol