Plentyn mewn sedd 'wedi disgyn o gar' yng Nghaernarfon

Car arian Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Mae'r heddlu wedi rhyddhau'r llun yma o'r car maent yn tybio oedd yn rhan o'r digwyddiad

Mae'r heddlu'n ymchwilio i adroddiadau bod plentyn oedd mewn sedd car wedi disgyn o gerbyd oedd yn symud.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru adroddiad gan dyst welodd y digwyddiad ger garej Texaco yng Nghaernarfon, Gwynedd.

Dywedodd yr heddlu bod y plentyn wedi ei ganfod ac wedi cael triniaeth yn yr ysbyty am fan anafiadau.

Digwyddodd am tua 12:40 ddydd Mawrth.

Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth am y car arian, gan nad oedd y tyst wedi gweld y rhif adnabod.

Pynciau Cysylltiedig