Cofio aelod o'r SAS o Sir Gâr a laddwyd gan Natsïaid yn Ffrainc

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Gwaith uned Tomos Stephens oedd cadarnhau bodolaeth trenau oedd i fod i gyflenwi tanwydd i uned Das Reich yr Almaenwyr

Mae dros 200 o bobl wedi cymryd rhan mewn gwasanaethau yn Ffrainc i gofio 75 mlynedd ers i Gymro oedd yn aelod o'r SAS a saith aelod o'r Gwrthsafiad (Resistance) gael eu lladd gan filwyr Almaenig.

Roedd y Lefftenant Tomos Stephens o Lansteffan yn aelod o uned fechan a gafodd eu gollwng trwy barasiwt gannoedd o filltiroedd tu hwnt i filwyr y Cynghreiriaid yn Normandi yn yr oriau a'r diwrnodau ar ôl D-Day fel rhan o Operation Bulbasket.

Bu farw yn 24 oed ar 3 Gorffennaf 1944 wedi i'r Natsïaid ddarganfod pencadlys cudd yr uned mewn coedwig ger pentref Verrières, yn ardal Vienne.

Roedd yna wasanaeth ym mhentref Verrières cyn i drigolion a chyn-filwyr o Brydain a Ffrainc gerdded i fedd Tomos Stephens yn y fynwent leol, ac yna i'r goedwig i gofio'r bobl eraill fu farw yn yr un frwydr.

Image copyright @SASRA (SAS Regimental Associationon)
Image caption Fe wisgodd Tomos Stephens (canol) fel Ffrancwr cyffredin i gasglu gwybodaeth a arweiniodd at ymosodiad ar drenau fyddai wedi cyflenwi tanwydd i'r fyddin Almaenig

Daeth Stephens yn aelod o'r SAS ar ôl treulio cyfnod fel carcharor rhyfel. Daeth i 'nabod Capten John Tonkin, aelod o'r SAS, yng ngogledd Affrica ac fe drosglwyddodd i'r uned arbennig o'r South Wales Borderers.

Yn ystod ei gyfnod byr yn Ffrainc, cafodd Stephens ei ddewis ar gyfer cyrch arbennig, i gadarnhau bodolaeth trenau petrol oedd i fod i gyflenwi tanwydd i uned gïaidd Das Reich yr Almaenwyr.

Gwaith yr SAS oedd atal yr uned - oedd â 20,000 o ddynion a 150 o danciau - rhag cyrraedd traethau Normandi.

Image caption Roedd nai Tomos Stephens, John Stephens (yn y siwt olau) yn y gwasanaeth coffa fore Mercher

Ar ôl benthyg gwisg Ffrancwr cyffredin, fe seiclodd Stephens 60 cilometr i Châtellerault cyn dychwelyd i bencadlys cudd yr SAS yn yr oriau mân ar 11 Mehefin 1944.

Am tua 20:00 ar 12 Mehefin 1944, fe ymosododd 24 o fomwyr Mosquito'r RAF ar y trenau gyda bwledi 20mm a 10 tunnell o fomiau, gan eu dinistrio'n llwyr.

Daeth yr Almaenwyr i wybod bod uned fechan o'r SAS yn gweithio ar lawr gwlad, a mynd ati i'w darganfod.

Erbyn 3 Gorffennaf roedden nhw wedi dod o hyd i'r pencadlys cudd yn y goedwig ger Verrières.

Image caption Mae yna gofeb i'r bobl fu farw yn y goedwig ger Verrières ar 3 Gorffennaf 1944

Cafodd rhyw 40 o ymladdwyr yr SAS a llond dwrn o ymladdwyr y Maquis - aelodau'r Gwrthsafiad Ffrengig mewn ardaloedd cefn gwlad - eu hamgylchynu gan 400 o filwyr Almaenig.

Yn ystod brwydr chwerw yn y goedwig, cafodd Tomos Stephens ei anafu'n ddrwg, cyn cael ei guro i farwolaeth gan filwyr yr SS gyda charn reiffl. Lladdwyd saith o ymladdwyr y Maquis.

Cafodd 30 aelod o'r SAS eu saethu'n farw yn ddiweddarach, ynghyd â swyddog llu awyr yr Unol Daleithiau, ar ôl cael eu gorfodi i dorri eu beddi eu hunain.

Yn ôl Nigel Thomas, cyn-aelod o'r SAS sy'n byw ger Llansteffan, roedd gweithredoedd y Cymro ifanc a'r SAS yn eithriadol o bwysig.

"Fe ddywedodd Winston Churchill, 'Go out to Europe and create havoc'. Heb gael petrol, dyw'r tanks methu symud mlaen," meddai.

O'i brofiad personol, mae Mr Thomas yn amau y byddai'r milwr ifanc wedi teimlo cyffro, er y perygl amlwg.

"Chi wrth eich hunain, 200 milltir tu ôl enemy lines. Mae'n exciting y diawl. So chi'n gwybod os ydych chi mynd i ddod 'nôl.

Image caption John Stephens wrth fedd ei ewythr yn ardal Verrières

"Mae'n rhaid bod chi'n mwynhau rhywbeth fel 'na. Rhaid bod ar guard drwy'r amser. Mae'n od, ond mae'n gwneud i chi deimlo eich bod chi yn fyw.

"Fi bron yn gallu teimlo beth aeth trwyddo. Mae'r adrenaline yn mynd a wedyn cael ei ddala. Bydden nhw paratoi am hyn. Mae pethau fel hyn yn digwydd."

Ychwanegodd: "I gael Tomos yn y pentref yn Llansteffan, mae'n gwneud e'n rhywbeth sbesial i fi."

Image caption Coeden goffa pencadlys cudd yr SAS yn y goedwig ger Verrières

Mae yna gofeb i Tomos Stephens yng Nghapel Moriah, Llansteffan, ar fedd y teulu, oedd yn bobl ddylanwadol yn yr ardal.

Cafodd ei addysg mewn ysgolion yn Lloegr cyn mynd i academi filwrol Sandhurst.

Fe roddodd y teulu dir i'r pentref er mwyn i bobl leol godi neuadd goffa.

Image caption Mae yna gofeb i Tomos Stephens ar fedd y teulu yng Nghapel Moriah, Llansteffan

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol