Gilbern: Y Car Cymreig yn 60

Gilbern

Yn y chwedegau roedd cwmni bach yng Nghymru yn cystadlu gydag enwau mawr fel Jaguar a Lotus. Daeth torf ynghyd yng Nghastell Cyfarthfa yn Merthyr Tudful ddydd Sul i ddathlu'r cerbyd a roddodd Cymru, am gyfnod, ar fap cynhyrchu ceir y byd.

Cynhyrchwyd y Gilbern GT cyntaf mewn hen ladd-dy ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd yn 1959.

Menter annhebygol rhwng cigydd lleol, Giles Smith a charcharor rhyfel o'r Almaen, Bernard Friese oedd hi. Cyfuniad o enwau cyntaf y ddau a greodd enw'r cerbyd.

Image copyright Clwb Perchnogion Gilbern
Image caption Bernard Friese a Giles Smith â'r Gilbern cyntaf

Yn ôl Jason Smith, mab sylfaenydd y cwmni, lwc ddaeth a Friese a'i dad at ei gilydd.

"Roedd nhad yn arfer teithio rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl ac un diwrnod fe welodd sports car tu fas y tŷ 'ma," meddai.

"Bernard oedd y perchennog, ac fe ddechreuon nhw siarad am sut i greu menter newydd, ond yr hyn oedd yn clymu'r ddau oedd y freuddwyd o greu car cyflym o safon."

Image caption Jason Smith mab cyd-sylfaenydd Gilbern, Giles Smith

Yn ôl Jason: "Roedd fy nhad yn frwd iawn i fynd ymlaen yn syth â'r adeiladu ond roedd Bernard yn fwy pwyllog ag yn trio ei gymell i beidio â mynd ymlaen a phethau mor gyflym".

Am gyfnod roedd y car Cymreig hwn yn cael ei drafod yn yr un anadl a'r Jaguar a Lotus, ac o'r tua 1000 a gynhyrchwyd mae rhyw 700 yn dal i fod mewn bodolaeth.

Roedd y GT yn un o dri model gan y cwmni, y Genie a'r Invader oedd y lleill. Mae hefyd yn 50 mlynedd i'r mis ers pan gynhyrchwyd y model ola', sef yr Invader.

'Troi petrol yn sŵn'

Perchennog balch arall yw Darran Thomas o Bontypridd.

"Ffarmwr o ardal Pen-y-bont ar Ogwr oedd berchen yr Invader MK 2 hwn nôl ar ddechrau'r saithdegau, ond nath e roi'r gorau i'w yrru tua 1976. Buodd mewn sied ar y fferm am chwarter canrif. Fe brynes i e wedyn gan berson yn Ffestiniog rhyw 16 mlynedd yn ôl.

"Mae'r car yn gwneud tua 25 milltir y galwyn ac yn grêt am droi petrol yn sŵn!

"Ro'dd hi'n freuddwyd 'da fi i fod yn berchen ar un a dyma fe fan hyn, a pha liw gwell na choch ar gyfer car Cymreig fel y Gilbern?"

Yr hyn oedd yn help i greu y freuddwyd honno oedd defnydd newydd arloesol, gwydr ffeibr.

Roedd gwydr ffeibr ar y pryd yn ysgafnach ac yn rhatach na'r defnydd arferol, a doedd e ddim yn rhydu.

Doedd dim Treth Bryniant chwaith ar geir cit, sef treth oedd yn seiliedig ar foethusrwydd cynnyrch, a golygai hyn y gallech chi adeiladu'r cerbyd dros benwythnos yn unig. Mae hysbysebion y cwmni yn tanlinellu hyn.

Mae Darran Thomas yn credu bod y cwmni wedi bod yn glyfar yn y ffordd roedden nhw yn gweithredu i osgoi yr angen i bobl dalu'r dreth bryniant.

"Bydde'r car yn cyrraedd yn ei gyfanrwydd…bron. Base'r gwaith trydan er enghraifft wedi ei orffen, ond falle bydde rhaid i chi roi'r cadeiriau blaen i mewn, neu efallai rhoi'r lampau i mewn. Ro'ch chi yn dod rownd talu'r dreth drwy wneud hyn." meddai.

Image caption Darran Thomas a'i Gilbern Invader Mk2 o 1971

Eleni hefyd mae'n hanner canrif ers i Glwb Perchnogion Gilbern gael ei sefydlu. Mae gan y clwb dros 400 o aelodau felly mae o leiaf y nifer hynny ar y ffyrdd o hyd.

"Mae'r perchennog cyffredin ychydig yn ecsentrig ag eisiau car ychydig yn wahanol, yn enwedig os yn nhw yn Gymry ei hunain. O ran gwerth base car mewn cyflwr da iawn erbyn heddi werth rhyw 12,000 o bunnoedd," meddai Kev Hare, llefarydd ar ran y clwb.

Image copyright Clwb Perchnogion Gilbern
Image caption Yr actores Rula Lenska mewn hysbyseb i Gilbern

Eto, ar ei brysuraf dim ond rhyw bump o geir yr wythnos roedd y gweithlu o tua 60 yn ei gynhyrchu. Tra doedd dim prinder prynwyr doedd hi ddim mor hawdd cynhyrchu cerbydau ar unrhyw lefel a fydde yn creu elw mawr.

Hanes unigryw Cymreig

Erbyn cychwyn y 1970au doedd pethau ddim yn edrych yn grêt i Gilbern, ac yn ôl llawer gyda dyfodiad Treth Ar Werth yn 1973 fe aeth hi yn fwyfwy anodd i gynnal busnes proffidiol.

Mae eraill yn credu taw dyfodiad yr wythnos waith dridiau o hyd, ynghyd â sefyllfa druenus y farchnad stoc oedd i feio, a stopiodd hyn ddarpar fuddsoddwyr rhag gwario'u harian yn y cwmni.

Image caption Dros 60 o geir yn y dathliad 60 mlynedd

Ond doedd dim achubiaeth i fod, a chaewyd drysau'r ffatri yn 1974.

Ond i'r rheiny a ymgasglodd yn Merthyr ddydd Sul yr hyn sy'n destun balchder iddyn nhw yw eu bod nhw berchen ar ddarn o hanes unigryw Cymreig na welir ei fath fyth eto.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig