Mantais i Forgannwg yn erbyn Sir Gaerwrangon

Brett D'Oliveira Image copyright Rex Features
Image caption Brett D'Oliveira oedd y seren o ran bowlwyr Sir Gaerwrangon, gan gymryd saith wiced

Morgannwg sydd â'r fantais dros Sir Gaerwrangon hanner ffordd trwy eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yng Ngerddi Soffia.

Fe wnaeth Morgannwg ddechrau'r ail ddiwrnod ar sgôr o 354-6 ac fe lwyddon nhw i gyrraedd cyfanswm o 449 cyn colli eu 10 wiced.

Cafodd Sir Gaerwrangon ddechrau addawol i'w batiad cyntaf hefyd, cyn i gyfres o wicedi yn y prynhawn eu gadael ar sgôr o 191-5 dros nos.

Mae Morgannwg yn gobeithio am fuddugoliaeth allai eu gweld yn aros ar frig yr Ail Adran.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol