Dyn, 80, yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio ei wraig, 77

Mavis Long Image copyright Llun teulu
Image caption Bu farw Mavis Long ar 10 Mai

Mae dyn 80 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio ei wraig yng Ngheredigion yn gynharach eleni.

Cafwyd hyd i gorff Mavis Long, 77, yn y tŷ roedd hi'n ei rannu gyda'i gŵr, Frank Long yn ardal Pennant ger Aberaeron ar 10 Mai.

Fe wnaeth Mr Long ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth drwy gyswllt fideo er mwyn cadarnhau ei enw.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa gan y barnwr Paul Thomas nes ei ymddangosiad nesaf ar 10 Gorffennaf.

Fe gafodd y diffynnydd ei arestio'n wreiddiol ar 10 Mai, ond cafodd ei ryddhau cyn cael ei gyhuddo'r wythnos ddiwethaf.

Yn dilyn ei marwolaeth, dywedodd teulu Ms Long y byddai "colled enfawr ar ei hôl".

Pynciau Cysylltiedig